Gwaethygu mae’r sefyllfa yn nwyrain Ewrop gyda’r ymladd yn Wcráin yn dwysau, a Vladimir Putin yn troi at gyflawni troseddau rhyfel yn erbyn poblogaeth y wlad.

Mae dros ddwy filiwn o bobol bellach wedi ffoi, gan arwain at yr hyn y mae’r Cenhedloedd Unedig wedi’i ddisgrifio fel yr argyfwng ffoaduriaid sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Fodd bynnag, parhau i wrthod galwadau i ddiddymu gofynion fisa i Wcrainiaid sy’n ffoi rhag y trais mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a dylai fod cywilydd arnynt.

Ddoe (dydd Mercher, Mawrth 9), daeth i’r amlwg mai dim ond 670 o’r 18,000 o geisiadau fisa y mae’r Deyrnas Unedig wedi’u derbyn oedd wedi eu prosesu gan y Swyddfa Gartref.

Mae’r ffigwr hwnnw bron yn fil erbyn hyn yn ôl Boris Johnson, sy’n honni fod ei Lywodraeth “yn arwain y byd” yn eu cymorth i bobl o Wcráin – enghraifft arall ohono yn dweud un peth, tra’n gweithredu mewn modd hollol wahanol.

Gadewch i ni gymharu’r ffigyrau: Yn yr Undeb Ewropeaidd – sy’n caniatáu preswyliad tair blynedd i Wcrainiaid sydd heb fisa – mae Gwlad Pwyl wedi croesawu dros 1.2 miliwn o bobol, tra bod yr Almaen wedi rhoi lloches i dros 50,000 o ffoaduriaid.

Mae 7,000 o bobol wedi cyrraedd yr Eidal ac mae Iwerddon – sydd â phoblogaeth o 5 miliwn – wedi croesawu tair gwaith yn fwy o ffoaduriaid na Phrydain.

Dyma fap sy’n adrodd cyfrolau.

“Creulon”

Yn y cyfamser, mae biwrocratiaeth system fisas y Deyrnas Unedig yn golygu bod cannoedd o ffoaduriaid yn styc yn Calais, gyda Llywodraeth Ffrainc – sydd wedi croesawu dros 5,000 o ffoaduriaid hyd yma – yn cyhuddo San Steffan o “ddiffyg dyngarwch”.

Dywedodd swyddogion o Ffrainc wrth y BBC bod bron i 300 o bobol wedi cael eu gwrthod wrth geisio croesi sianel.

Mae Paris bellach yn galw ar y Swyddfa Gartref i ddiddymu’r rhwystrau “creulon” sy’n ei gwneud hi mor anodd i ddinasyddion Wcráin gyrraedd ein glannau.

Fodd bynnag, “mae rhyw fath o reolaeth yn nodwedd bwysig o’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau,” yn ôl Boris Johnson, sy’n mynnu nad “mewnfudo heb reolaeth yw’r ffordd ymlaen”.

Mae yna rwystredigaeth ymhlith Llywodraethau datganoledig Prydain hefyd, gyda Nicola Sturgeon, Prif Weindiog yr Alban, yn dweud bod agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “gywilyddus”.

Ac wrth siarad â golwg360, dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, bod San Steffan yn “tanseilio” ymdrechion Cymru i groesawu ffoaduriaid.

Newid i’r system

Heddiw (dydd Iau, Mawrth 10), mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi cyhoeddi y bydd dull newydd, symlach i Wcrainiaid ddod i’r Deyrnas Unedig yn weithredol o ddydd Mawrth nesaf (Mawrth 15) ymlaen.

O dan y rheolau newydd, bydd Wcrainiaid sydd â phasbortau yn gallu gwneud cais am fisas yn gyfan gwbl ar-lein.

Ni fydd yn rhaid iddynt ymweld â chanolfan ymgeisio am fisa a byddan nhw’n gallu cyflwyno eu data biometrig yn y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn golygu bod modd i’r canolfannau flaenoriaethu’r achosion mwyaf cymhleth a ffoaduriaid sydd heb ID.

Daw hyn ar ddiwedd wythnos lle mae Priti Patel wedi bod o dan bwysau eithriadol.

Mae hi wedi wynebu cyhuddiadau o lusgo’i thraed, dangos diffyg trugaredd tuag at ffoaduriaid o Wcráin, yn ogystal â dweud celwydd yn siambr Tŷ’r Cyffredin.

Daeth o dan ragor o bwysau pan honnodd Taioseach Iwerddon, Micheál Martin, ei bod wedi dweud wrth Ddulyn ei bod yn pryderu y byddai polisi croesawgar y wlad yn galluogi ffoaduriaid i gyrraedd y Deyrnas Unedig drwy’r “drws cefn”,

Yn wir, mae un Aelod Seneddol Torïaidd eisoes wedi galw arni i ymddiswyddo am y ffordd y mae ei hadran wedi ymdrin â’r argyfwng.

Bydd hi’n gobeithio y bydd cyhoeddiad heddiw yn lleddfu tipyn o’r pwysau.

Ond ydi’r newidiadau i’r system yn ddigonol?

Mae’n ymddangos bod y Swyddfa Gartref yn mabwysiadu agwedd ychydig yn fwy dyngarol, ond nid yw cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cartref yn mynd yn ddigon pell.

Mae parhau i fynnu cael data biometrig gan ffoaduriaid o Wcráin yn rhwystr diangen y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi’i ddiddymu ers tro.

Ac er y bydd gallu gwneud ceisiadau ar-lein yn golygu llai o giwio mewn canolfannau fisa, yr un yw gofynion y cais ac maen nhw’n niferus.

Mae angen i’r Llywodraeth ddilyn gwledydd y cyfandir a diddymu’r holl ofynion fisa i ffoaduriaid o Wcráin oherwydd mai dyna’r peth iawn i wneud.

Roedd adeg lle nad oedd angen cyfarwyddyd arnom i wneud y peth iawn.