Mae sancsiynau newydd wedi cael eu rhoi yn erbyn saith o oligarchiaid Rwsia, gan gynnwys perchennog Chelsea Roman Abramovich, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Fel rhan o’r sancsiynau hynny, mae asedau’r saith oligarch – sydd â gwerth net o tua £15 biliwn rhyngddyn nhw – wedi cael eu rhewi, ac maen nhw wedi cael eu gwahardd rhag teithio i Brydain.
Nid oes gan ddinasyddion na chwmnïau o’r Deyrnas Unedig hawl i fasnachau gyda nhw chwaith.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig geisio cyfyngu ar unrhyw un sydd â chysylltiad ag arlywydd Rwsia Vladimir Putin, yn sgil y rhyfel yn Wcráin.
Mae gweinidogion wedi dod o dan bwysau cynyddol i gosbi oligarchiaid sy’n gysylltiedig â chyfundrefn Putin, a dilyn esiampl gwledydd eraill ledled Ewrop.
Dim ‘hafan ddiogel’
Dywed y Prif Weinidog Boris Johnson “na ddylai’r rheiny sydd wedi cefnogi ymosodiad dieflig Putin ar Wcráin gael hafan ddiogel”.
“Y sancsiynau heddiw yw’r cam diweddaraf yng nghefnogaeth gadarn y Deyrnas Unedig i bobol Wcráin,” meddai.
“Byddwn yn ddidostur wrth fynd ar drywydd y rhai sy’n galluogi lladd dinasyddion cyffredin, dinistrio ysbytai, a meddiannu cynghreiriaid sofran yn anghyfreithlon.”
Y saith sydd wedi eu cosbi yw:
- Roman Abramovich – perchennog clwb pêl-droed Chelsea
- Oleg Deripaska – perchennog cwmni ynni En+ Group
- Igor Sechin – prif weithredwr cwmni olew Rosneft
- Andrey Kostin – cadeirydd VTB Bank
- Alexei Miller – prif weithredwr cwmni ynni Gazprom
- Nikolai Tokarev – llywydd cwmni cludo olew Transneft
- Dmitri Lebedev – prif weithredwr Bank Rossiya
Mae’n debyg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr wedi gosod sancsiynau ar dros 500 o unigolion, endidau, ac is-gwmnïau mwyaf sylweddol Rwsia fel rhan o’i hymdrechion i ddifrodi economi’r wlad.
Maen nhw hefyd yn ategu bod disgwyl i’r Bil Trosedd Economaidd gael ei basio wythnos nesaf, a fydd yn “symleiddio’r broses” o gosbi’r rheiny sydd â chysylltiadau â’r Kremlin.
‘Dylen nhw fod â chywilydd’
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss fod y sancsiynau sydd wedi eu cyhoeddi ganddi heddiw (dydd Iau, Mawrth 10) yn dangos nad oes lle i “oligarchiaid a chleptocratiaid yn ein heconomi nac ein cymdeithas.”
“Wrth fod â chysylltiadau agos â Putin, maen nhw’n rhan o’i ymddygiad ymosodol,” meddai.
“Mae gwaed pobol Wcráin ar eu dwylo. Ddylen nhw fod â chywilydd llwyr.
“Ni fydd ein cefnogaeth ni tuag at Wcráin yn lleihau. Fyddwn ni ddim yn stopio’r ymgyrch i gynyddu’r pwysau ar gyfundrefn Putin a gwasgu’r cyllid o’i beiriant rhyfel creulon.”
Cyfyngu ar Chelsea
Roman Abramovich yw’r oligarch sydd â’r gwerth net mwyaf (£9.4 biliwn), ac mae nifer o’i asedau, gan gynnwys awyrennau a chychod hwylio, wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig.
Gall y llywodraeth nawr gymryd rheolaeth o’r holl asedau hynny, yn ôl y cyhoeddiad heddiw.
Yn sgil y sancsiynau newydd, mae’n debyg bod gwasanaethau clwb pêl-droed Chelsea wedi cael eu heffeithio hefyd.
Cytunodd gweinidogion y dylai Chelsea gael parhau i chwarae eu gemau am y tro, gan fod y gosb yn “ddigonol” fel mae hi, ond ni fydd y clwb yn gallu â gwerthu tocynnau o hyn ymlaen.
Mae eu cartref Stamford Bridge yn dal bron i 41,000 o gefnogwyr, ac fe fydd siop y clwb yn y stadiwm honno hefyd yn gorfod cau ei drysau.
Bydd unrhyw gefnogwr sydd wedi prynu tocynnau tymor neu docynnau unigol cyn Mawrth 10 yn gallu mynd i wylio’r gemau.
Mae Chelsea yn rhydd i dalu eu holl weithwyr, gan gynnwys chwaraewyr a staff hyfforddi, ac maen nhw’n gallu gwario’n “rhesymol” ar gostau teithio a chynnal gemau.
Does dim rhwystr ar ddarlledwyr chwaith, felly bydd modd i gefnogwyr barhau i wylio’r Gleision ar y teledu.
Mae Abramovich yn gwadu unrhyw gysylltiad â Vladimir Putin.