Mae ymgyrch newydd gan Hybu Cig Cymru yn dadlau nad oes rhaid i bobol droi’n figan er mwyn cyfrannu at les y blaned.

Trwy reoli tir yn ofalus a defnyddio dulliau ffermio dwysedd-isel, mae modd cynhyrchu a bwyta cig coch mewn ffordd sy’n garedig i’r amgylchedd ac yn gynaliadwy, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae Hybu Cig Cymru, ynghyd ag undebau a mudiadau amaethyddol eraill, wedi lansio ymgyrch heddiw (Mawrth 10) i fynd i’r afael â rhai o’r mythau ynghylch bwyta cig i ddangos sut y gall cynhyrchu a bwyta cig coch drwy ddulliau cynaliadwy fod yn rhan o’r ateb i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn ogystal, mae menter #GorauGlas, sy’n cael cefnogaeth y Gynghrair Cefn Gwlad, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, Cymdeithas y Cyflenwyr Cig Annibynnol, Cymdeithas y Tenantiaid Fferm, a Chymdeithas Genedlaethol y Defaid, yn galw am sicrhau bod cynhyrchu cig cynaliadwy Cymru yn ganolog wrth lunio polisïau gwyrdd.

‘Dim rhaid dewis’

Does dim rhaid dewis rhwng bwyta cig neu ddiogelu’r blaned, meddai Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, wrth lansio’r ymgyrch.

“Gwyddom fod yr argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu yn awr yn real,” meddai Gwyn Howells.

“A thra bod systemau ffermio dwys yn rhan o broblem yr argyfwng hinsawdd, nid rhoi’r gorau i fwyta cig coch yw’r ateb, ond ei gynhyrchu a’i fwyta’n fwy cynaliadwy a moesegol.

“Y ffaith yw bod prynu cig o ansawdd uchel wedi’i gynhyrchu yn lleol yn iach i ni ac i’r amgylchedd.

“Dyna pam rydym yn yr ymgyrch hon  yn dathlu sut mae cig coch Prydain ymhlith y cigoedd mwyaf cynaliadwy yn y byd. Yn ogystal, mae ganddo beth o’r ôl-troed carbon isaf.”

‘Prynu’n lleol’

Cymru yw un o’r mannau mwyaf cynaliadwy ar y Ddaear o ran cynhyrchu cig coch, meddai Hybu Cig Cymru, gan fod y prosesau cynhyrchu’n rhai dwysedd isel a gan fod y tiroedd pori’n gweithredu fel storfeydd carbon.

Mae dros draean o’r allyriadau o ffermydd yn cael eu gwrthbwyso wrth i dir glas, gwrychoedd, a choed ar ffermydd ddal carbon, ac mae’r tir glas – sef y rhan fwyaf o’r tir amaethyddol yng Nghymru – yn dal dwywaith cymaint o garbon â thiroedd lle mae cnydau’n tyfu.

Golyga hynny bod tua 318 miliwn kg o garbon yn cael ei dynnu o’r atmosffer bob blwyddyn.

Dywedodd Paul Williams, perchennog fferm deulu fynydd Cae Haidd Ucha ger Llanrwst yn Eryri: “Rydyn ni’n gwybod taw prynu’n lleol yw’r dewis mwyaf ecogyfeillgar yn aml.

“Am fod ôl troed carbon cig eidion Prydain yn 50% yn is na’r cyfartaledd byd-eang, nid yw cig yn eithriad.

“Yn wahanol i gynhyrchu bwyd mewn gwledydd tramor sy’n gallu golygu olion traed carbon uwch a defnydd uchel o gemegau a meddyginiaethau, mae’r glaswellt y mae gwartheg Prydain yn ei fwyta yn amsugno ac yn storio miloedd o dunelli o garbon, gan gynnal ein cefn gwlad eiconig ym Mhrydain, sy’n gartref i gyfoeth enfawr o fioamrywiaeth.”

Cryfhau gallu’r diwydiant amaeth i ofalu am yr hinsawdd yn flaenoriaeth i Lywydd newydd yr NFU

Cadi Dafydd

“Os ydyn ni’n gwneud polisïau anghywir, mi fyddan ni’n medi’r goblygiadau, nid mewn blwyddyn neu ddwy, ond mewn ugain mlynedd, hanner can mlynedd”