Mae cabinet awdurdod lleol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i hybu’r Gymraeg a chynyddu nifer siaradwyr ar draws y sir.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru alw ar gynghorau sir i lunio strategaethau yn ymwneud â’r iaith, fel rhan o’r ymgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fe fydd y cyngor yng Nghaerffili yn cydweithio gyda sefydliadau lleol fel Menter Iaith Caerffili, Coleg y Cymoedd, bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Heddlu Gwent er mwyn cyflawni amcanion Strategaeth y Gymraeg rhwng 2022 a 2027.
Y prif nodau sydd ganddyn nhw yw annog teuluoedd i siarad Cymraeg yn y cartref, hybu defnydd o’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac ennyn cefnogaeth gan y gymuned tuag ati.
Byddan nhw hefyd yn ceisio gwella argaeledd gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu defnydd o’r iaith mewn gweithleoedd.
Roedd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2019 yn amcangyfrif bod 23.7% o boblogaeth y sir yn medru’r iaith – cynnydd o 12.8% ar ffigyrau swyddogol y Cyfrifiad Cenedlaethol yn 2011.
Ar hyn o bryd, dim ond un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd yn y sir, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, tra bod 11 o ysgolion cynradd Cymraeg yno.
Yn ystod y cyfarfod ddoe (dydd Mercher, Mawrth 9), dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, bod pob un o gynghorwyr y cabinet wedi ymrwymo i wireddu amcanion y strategaeth pum mlynedd.
Bydd y strategaeth yn cael ei weithredu ochr yn ochr â chynllun y cyngor ar gyfer addysg Gymraeg, a gafodd ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2021.