Mae’r trafodaethau rhwng gweinidogion tramor Rwsia ac Wcráin wedi methu â gwneud unrhyw gynnydd, meddai Wcráin.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod yn Nhwrci, dywedodd Gweinidog Tramor Wcráin Dmytro Kuleba fod y gofynion gafodd eu cyflwyno gan Sergei Lavrov yn gyfystyr ag ildio.

Yn y cyfamser, dywedodd Sergei Lavrov fod ymgyrch milwrol ei wlad yn un llwyddiannus hyd yma.

Daw’r trafodaethau ar ôl i Rwsia fomio ysbyty plant, gyda’r Wcráin yn eu cyhuddo o “drosedd rhyfel”.

Dywed swyddogion fod tri o bobl, gan gynnwys plentyn, wedi marw yn yr ymosodiad yn ninas dde-ddwyreiniol Mariupol.

“Heddiw, mae Rwsia wedi cyflawni trosedd enfawr,” meddai Volodymir Nikulin, un o brif swyddogion rhanbarthol yr heddlu.

“Mae’n drosedd rhyfel heb unrhyw gyfiawnhad.”

Dywedodd yr Arlywydd Volodymyr Zelensky: “Ysbyty plant. Ysbyty mamolaeth,” meddai.

“Pa fath o wlad yw hon, Ffederasiwn Rwsia, sydd ofn ysbytai, ofn ysbytai mamolaeth, ac yn eu dinistrio?”

Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ei fod wedi cadarnhau 18 o ymosodiadau ar gyfleusterau meddygol ers i ymosodiad Rwsia ddechrau ar Chwefror 24.

Wrth siarad ar ôl y trafodaethau yn Nhwrci, wfftiodd Sergei Lavrov bryderon am ymosodiadau milwrol Rwsia ar ddinasyddion, gan gynnwys ar ysbyty mamolaeth.

“Cwyno pathetig” gan elynion ei wlad oedd y rhain, meddai.

Ymdopi â sancsiynau’r Gorllewin

Lansiodd Rwsia ymosodiad ar Wcráin bythefnos yn ôl, ac mae dros 2.3 miliwn o bobl wedi ffoi o’r wlad ers hynny.

Mae’r sefyllfa ddyngarol ar ei gwaethaf yn nhref Mariupol, meddai Dmytro Kuleba, lle mae trigolion wedi’u dal am ddyddiau mewn tymheredd rhewllyd heb drydan na dŵr.

Ond nid yw Rwsia yn fodlon sefydlu coridor dyngarol yno ac nid oedd ychwaith wedi ymateb i gais am oedi yn yr ymladd ar draws Wcráin am 24 awr, meddai.

Dywedodd Sergei Lavrov fod Rwsia’n barod am fwy o drafodaethau, ond mae’n ymddangos nad yw safiad Moscow wedi newid o gwbl.

Cyhuddodd y Gorllewin am ysgogi’r gwrthdaro drwy gyflenwi arfau i Wcráin hefyd.

Ychwanegodd y byddai Rwsia’n ymdopi â sancsiynau’r Gorllewin, ac yn “dod allan o’r argyfwng gyda gwell seicoleg a chydwybod”, meddai.

“Rwy’n eich sicrhau y byddwn yn ymdopi ac yn gwneud popeth i beidio â dibynnu ar y Gorllewin, mewn unrhyw ran o’n bywydau,” meddai.

‘Ni fyddwn yn ildio’

Er ei fod yn dweud ei fod yn barod i gynnal rhagor o gyfarfodydd, mynnodd Dmytro Kuleba na fydd Wcráin yn ildio.

“Rwyf am ailadrodd nad yw Wcráin wedi ildio, nid yw’n ildio, ac ni fyddwn yn ildio,” meddai.

Sancsiynau newydd yn erbyn saith oligarch o Rwsia

“Ni ddylai’r rheiny sydd wedi cefnogi ymosodiad dieflig Putin ar Wcráin gael hafan ddiogel,” medd y Prif Weinidog Boris Johnson