Mae angen gwarchod cymunedau cefn gwlad Cymru a gwarchod y blaned wrth blannu coed, meddai mudiad Dyfodol i’r Iaith.
Wrth ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, Lee Waters, galwodd y mudiad iaith am sicrwydd y byddai cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith yn cael eu gwarchod wrth i goed gael eu plannu er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd y mudiad eu bod nhw’n falch o gael gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr anghenion a’r egwyddor mai ffermwyr yn hytrach na chwmnïau allanol ddylai fod yn ganolog yn y gwaith.
‘Ymrwymiadau penodol’
Er hynny, mae Dyfodol i’r Iaith yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau penodol a chadarn i sicrhau na fydd cymunedau gwledig yn dioddef.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu cyllid i ffermwyr sy’n byw ar y tir lle y mae bwriad i blannu coed, a gwahardd arian i gwmnïau allanol allu manteisio ar brynu tir “ar draul y gymuned frodorol”.
Yn unol ag argymhellion yr Athro Gareth Wyn Jones mewn adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn 2010, dylai coed gael eu plannu ar diroedd llai cynhyrchiol, meddai Dyfodol i’r Iaith, megis ar ucheldiroedd â phridd asidig ac ar dir rhedynog.
“Mae’r mater hwn yn amlygu’r angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael a dau fath o gynaladwyedd sydd mor allweddol i’w gweledigaeth, sef sicrhau dyfodol i’r blaned ac i’w chymunedau yng nghefn gwlad Cymru,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Ynghyd â hynny, mae galwadau wedi bod i gynnwys yr argyfwng tir fel rhan o ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth “gan fod marchnadoedd tir yn bygwth cymunedau Cymru” hefyd.
‘Osgoi gwerthu i gwmnïau o’r tu allan’
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Lee Waters, Diprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, bod Llywodraeth Cymru’n awyddus i osgoi cwmnïau allanol yn prynu tir.
“Mae angen inni blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd hwn os ydyn ni am gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050,” meddai Lee Waters.
“Os caiff hyn ei reoli mewn modd priodol, mae hefyd yn cynnig cyfle sylweddol i’r economi wledig greu swyddi gwyrdd a sgiliau cynaeafu pren ar gyfer nwyddau gwerth uchel.
“Rydyn ni’n awyddus i osgoi cwmnïau allanol yn prynu tir ac rydyn ni am weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir Cymru i gyflawni hyn.
“Fel y dangosodd prosiect Ceiniogi’r Coed yn y Fenni, gellir gwneud hyn ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd ar dir llai cynhyrchiol, a gellir cadw rheolaeth a pherchnogaeth yn lleol.
“Rydyn ni wedi sefydlu grŵp arbenigol i ystyried sut y gallwn ni addasu’r model hwn ar gyfer Cymru gyfan”.