Mae dynes aeth ati i sefydlu prosiect i hybu’r iaith Wyddeleg yn ninas Belffast wedi cael ei hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd Brenhines Loegr.

Cafodd Linda Ervine gryn sylw yn y wasg yn 2011 fel gwraig i Brian Ervine, arweinydd y Progressive Unionist Party.

Arweiniodd yr holl sylw at ymholiadau ynghylch gwersi Gwyddeleg yn nwyrain y ddinas a sefydlu prosiect Turas, sydd bellach yn un o’r darparwyr gwersi mwyaf yn y ddinas.

Yn ogystal â chynnig gwersi, mae Turas hefyd yn gyfrifol am redeg prosiect twristiaeth ac maen nhw wrthi’n ceisio sefydlu ysgol iaith Wyddeleg.

Mae ganddyn nhw lyfrgell hefyd lle gall pobol gael mynediad i fwy na 4,000 o adnoddau iaith Wyddeleg a Sgots Ulster, ac maen nhw’n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr prifysgol.

Maen nhw hefyd yn addysgu pobol ifanc am yr iaith Wyddeleg, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith a’i siaradwyr ledled y wlad.

“Rydyn ni hefyd yn gwneud tipyn o waith cynghori ac yn mynd allan i siarad â grwpiau am yr iaith Wyddeleg, ac yn ceisio bod yn llais rhesymol yng nghanol yr hyn sydd weithiau’n dipyn o weiddi a chamddealltwriaeth ynghylch yr hyn yw’r iaith Wyddeleg a’r hyn yw hi,” meddai.

‘Newid y naratif’

“Newid y naratif” ynghylch yr iaith yw nod Turas, meddai, yn ogystal â sicrhau mai iaith pawb yw hi.

“Dw i’n credu ein bod ni’n llais positif iawn ar gyfer pobol dwyrain Belffast ac fe fydd llawer o’n dysgwyr yn mynd draw i orllewin Belffast a llefydd eraill i fynd i wersi a digwyddiadau,” meddai.

“Maen nhw bob amser yn dweud cymaint o groeso maen nhw’n cael, ac maen nhw wedyn yn gwahodd pobol draw i ddwyrain Belffast.

“Mae tipyn o deithio ar draws y ddinas.

“Mae pobol yn eistedd gyda’i gilydd, yn dysgu gyda’i gilydd ac yn chwerthin gyda’i gilydd.

“Nid pawb sy’n hoffi beth rydyn ni’n ei wneud, ac mae gyda ni rai negyddol ond rydyn ni jyst yn gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Ond am bob un peth amhleserus sy’n digwydd, fe fydd 100 o bethau hyfryd iawn yn digwydd a phan fo erail yn ymosod arnon ni, fe fydd llawer iawn mwy fydd eisiau ein cefnogi ni a’n hannog ni.

“Fe wnaeth Coleg y Drindod ddarn o ymchwil arnon ni a dod i’r casgliad fod y gwaith roedden ni’n ei wneud yn helpu i adeiladu heddwch, a dw i’n falch iawn o hynny.

“Mae Turas yn golygu ’taith’, fe ddechreuais i’r daith hon ar fy mhen fy hun a nawr mae cannoedd ohonon ni, ac mae hynny’n lle hyfryd i fod.”

cyfiawnder

Rhoi’r hawl i Conradh na Gaeilge wneud cais am adolygiad barnwrol tros Strategaeth Iaith Wyddeleg

Maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth Gogledd Iwerddon o weithredu’n groes i’r gyfraith yng Ngogledd Iwerddon
Palas Stormont a'r gerddi o'i gwmpas

“Dim rhagor o addewidion gwag” tros yr iaith Wyddeleg

“Nid yw methu ag anrhydeddu’r ymrwymiadau hyn yn sefyllfa gynaliadwy” meddai’r dirprwy brif weinidog Michelle O’Neill
Llun o adeilad Stormont

Hawliau’r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon: galw “am yr hyn sydd yn yr Alban a Chymru”

Iolo Jones

Ymgyrchydd iaith yn rhannu ei farn â golwg360 yn sgil protest ger Stormont

Y Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon: “Mae popeth yn yr awyr ar hyn o bryd”

Iolo Jones

Ymgyrchydd iaith rhannu ei farn am ymadawiad Arlene Foster â golwg360