Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, yn dweud mai “dyma’r flwyddyn i fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig”, wrth iddi rybuddio yn erbyn teithio dramor ar wyliau dros yr haf.

Daw’r neges ar ddiwrnod cyntaf cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2020, wrth i Gymru herio’r Swistir yn Baku heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 12).

Mae hawl gan bobol i deithio dramor ers mis diwethaf, ond mae cyfyngiadau llym yn eu lle er mwyn rheoli ymlediad Covid-19 a’i amrywiolion.

Mae Cymru’n dilyn yr un ‘goleuadau traffig’ â Llywodraeth Prydain wrth lacio’r cyfyngiadau ar deithio dramor, gyda gwledydd yn cael eu gosod ar restrau coch, oren a gwyrdd yn ôl cyngor iechyd cyhoeddus a chyfraddau brechu ar y pryd.

Ychydig iawn o lefydd sydd ar y rhestr werdd fel gwledydd mae’n ddiogel i deithio iddyn nhw.

“Dyma’r flwyddyn i fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig – gan gynnwys y tywydd – a gwyliau gartref,” meddai Eluned Morgan.

“Rydym yn annog pawb i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig. Rydym i gyd wedi gweithio mor galed dros fisoedd y gaeaf i reoli’r Coronafeirws yng Nghymru, tydy ni ddim am weld achosion newydd ac amrywiolion newydd yn dod i mewn i’r wlad drwy deithio dramor.

“Mae gennym raglen frechu o’r radd flaenaf ac mae mwy nag wyth o bob 10 oedolyn wedi cael eu dos cyntaf ond ni allwn fod yn rhy fodlon.

“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gadw Cymru’n ddiogel, rheoli lledaeniad y Coronafeirws, yn enwedig yr amrywiolyn delta newydd a diogelu’r enillion rydyn ni wedi’u gwneud.”

Mesurau i bobol sy’n teithio dramor

Yn unol â gwledydd eraill Prydain, mae’n bosib y bydd yn rhaid i bobol o Gymru sy’n mynd dramor eleni dalu am brofion, mynd i gwarantîn am gyfnod naill ai yn eu cartrefi neu mewn gwesty y tu allan i Gymru, neu ddangos eu bod nhw wedi cael eu brechu.

Mae’r mesurau gofynnol yn amrywio o le i le.

Rhaid i bobol sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd ‘rhestr goch’ fynd i gwarantîn am ddeng niwrnod ar safle penodedig, a chael profio gorfodol ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod ar ôl dod adref, a hynny o’u pocedi eu hunain – ac mae dirwy bosib o £10,000 am beidio â dilyn y drefn hon.

Rhaid i bobol sy’n dychwelyd o wledydd ‘rhestr oren’ fynd i gwarantîn am ddeng niwrnod a thalu am brofion ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod.

Does dim angen i bobol sy’n dychwelyd o wledydd ‘rhestr werdd’ fynd i gwarantîn ond mae’n orfodol iddyn nhw gael prawf cyn neu ar yr ail ddiwrnod.

Bydd cyfathrebu cyson â phobol ar y rhestrau oren a gwyrdd ac fe fyddan nhw’n cael cynnig cefnogaeth i gydymffurfio â’r gofynion profi a hunanynysu, gan gynnwys ymweliadau â’r cartref.

‘Mesurau angenrheidiol, ond nid yn ddi-fai’

“Bydd y camau rydym yn gofyn i deithwyr eu cymryd yn helpu i ddiogelu iechyd pawb drwy atal y Coronafeirws ac unrhyw amrywiolion newydd sy’n dod yn ôl i’r wlad,” meddai Eluned Morgan wedyn.

“Mae’r rhain yn fesurau angenrheidiol ond nid ydynt yn ddi-fai – gallwn roi mesurau ar waith i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â theithio rhyngwladol ond nid ydynt yn diflannu.

“Os nad oes angen i chi deithio, mae’n well aros gartref.”