Mae gweinidog polisi cyffuriau’r Alban yn awyddus i bedair gwlad Prydain ddod ynghyd i drafod diwygio cyfreithiau cyffuriau.
Mae Angela Constance wedi anfon llythyr at Kit Malthouse, gweinidog y Swyddfa Gartref, yn gofyn am gael trafod cyfleusterau atal gor-ddos a pheiriannau sy’n creu cyffuriau.
Yn ei llythyr, dywed fod cefnogaeth gan arbenigwyr ledled Ewrop o ran manteision cyfleusterau atal gor-ddos a’i bod hi wedi’i chalonogi o weld cefnogaeth y gweinidog i gynyddu argaeledd triniaethau gor-ddos.
Cafodd gweithgor ei sefydlu yn yr Alban yn ddiweddar i fynd i’r afael ag argyfwng marwolaethau’n ymwneud â chyffuriau.
Mae hi hefyd yn awyddus i sefydlu cyfleusterau fydd yn gallu gwirio cyffuriau sydd ar gael y strydoedd am fod “diffyg dealltwriaeth” ynghylch y math o gyffuriau mae pobol yn eu cymryd, medai.
Ymateb
“Gall cyffuriau ddinistrio bywydau, difetha teuluoedd a niweidio cymunedau,” meddai Kit Malthouse wrth ymateb.
“Mae dull y Llywodraeth hon iddyn nhw’n parhau’n glir – rhaid i ni atal camddefnyddio cyffuriau yn ein cymunedau a chefnogi pobol drwy driniaeth ac adferiad.
“Mae mynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon ac rydym yn glir fod angen gweithredu ledled y pedair gwlad i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio ledled y Deyrnas Unedig a chael cyswllt cyson â Llywodraeth yr Alban ar lefel weinidogol a swyddogol ar y mater hwn.”
Yn ôl y Swyddfa Gartref, dydy ystafelloedd cymryd cyffuriau ddim yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig, ond fe fyddan nhw’n ystyried tystiolaeth newydd ynghylch eu manteision a’u hanfanteision.