Mae dyn 25 oed o’r Bont-faen sydd newydd gael ei gydnabod ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd Brenhines Loegr yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at “ddyfodol mwy llewyrchus nag erioed o’r blaen” ar ôl troi ei gwmni distyllu wisgi’n gynhyrchwyr hylif golchi dwylo yn ystod y pandemig Covid-19.

Fe wnaeth Rhys Mallows, sy’n rhedeg y busnes Mallows Bottling â’i dad Andrew, gynhyrchu mwy na miliwn o boteli o hylif yn ystod y pandemig ar ôl gweddnewid y safle o fewn deg diwrnod ar ôl i gwmnïau o’r fath gael yr hawl i gynhyrchu hylif.

Roedd prinder ethanol, un o brif gynhwysion alcohol, ledled Ewrop ar y pryd, gyda gwledydd ar y cyfandir yn cau eu ffiniau ac yn cadw cyflenwadau oddi mewn i’r gwledydd hynny.

“Fe welson ni’r angen yn ein cymuned leol agosaf, yn ymddiriedolaethau lleol y Gwasanaeth Iechyd, yng nghartrefi’r henoed ac mewn ysgolion,” meddai.

“Mae fy ngwraig yn athrawes felly ro’n i’n clywed pa mor anodd oedd hi iddyn nhw bob dydd.”

Aeth Rhys ac Andrew ati i ddod i gytundeb â distyllwr yn yr Alban i gyflenwi gwirodydd i’w defnyddio mewn rysait ar gyfer yr hylif golchi dwylo.

Maen nhw bellach wedi cynhyrchu 1.3m o boteli 100ml o’r hylif a 124,000 o boteli mwy o faint.

Atal ymlediad

“Roedden ni’n gwybod y byddai pobol yn y gymuned yn dod i gysylltiad â’i gilydd, ac roedd golchi dwylo’n ffordd gyflym iawn o atal yr ymlediad hwnnw,” meddai Rhys Mallows.

“Dydyn ni ddim yn wyddonwyr, ond roedden ni wir yn teimlo y byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr pe baen ni’n gallu rhoi bwledi bach i bobol gael amddiffyn eu hunain.

“Rydyn ni wedi cyfrifo ac yn meddwl ein bod ni wedi golchi 81m o ddwylo.

“Rydyn ni wedi trio mor galed â phosib i’w cael nhw i mewn i ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd, i mewn i gartrefi’r henoed a cheisio cyrraedd y gadwyn gyflenwi fel ein bod ni’n gallu cynnig y budd mwyaf posib.”

‘Risg’

Mae’n dweud bod troi’r safle’n lleoliad i gynhyrchu’r hylif yn dipyn o “risg” gan y gallai fod wedi niweidio peiriannau.

Ond mae’n dweud na fyddai’r cyfan wedi bod yn bosib heb gymorth y 29 o weithwyr ar y safle hefyd, wrth iddyn nhw “ddod i mewn bob dydd pan oedd hi fwy na thebyg yn adeg frawychus”.

“Fe wnaeth pawb gyd-dynnu oherwydd roedden nhw’n credu yn yr achosion roedden ni’n gweithio tuag atyn nhw,” meddai wedyn.

Mae’n hyderus erbyn hyn fod modd manteisio ar eu profiadau dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ehangu’r cwmni.

Ei obaith yw y bydd modd cyflogi cyfanswm o hyd at 60 o bobol gan roi hwb i’r economi leol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y dyfodol mwyaf llewyrchus gawson ni erioed,” meddai.

“Mae’r pandemig wedi ein galluogi ni i fynd i mewn i farchnadoedd newydd nad ydyn ni erioed wedi mynd iddyn nhw o’r blaen.

“Mae’r diwylliant Zoom yn ein galluogi ni i gyfarfod â phrynwyr a phrynwyr rhyngwladol nad ydyn ni wedi cael mynediad iddyn nhw erioed o’r blaen.

“Gobeithio y byddwn ni’n lansio yng Ngwlad Pwyl, Ffrainc, Awstralia ac America, a thros y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n dod yn fwy o fusnes allforio nag o fusnes gartref.”