Mae Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Llafur Torfaen a llefarydd materion cartre’r blaid, yn dweud bod gwledydd Prydain “yn talu’r pris” yn dilyn amharodrwydd Llywodraeth Prydain i ddilyn cyngor gwyddonol wedi arwain at ohirio codi’r cyfyngiadau am fis arall.

Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi na fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi yn Lloegr ar Fehefin 21 wedi’r cyfan, a hynny yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta.

Gallai’r llacio terfynol gael ei ohirio am hyd at fis wrth i wleidyddion barhau i fonitro’r sefyllfa a brechu pobol iau.

Mae disgwyl penderfyniad gan Boris Johnson yfory (dydd Sul, Mehefin 13) a chyhoeddiad ddydd Llun (Mehefin 14).

Mae gwyddonwyr bellach yn rhybuddio y gallai achosion Covid-19 yn ymwneud â’r amrywiolyn arwain at don “sylweddol” arall o achosion pe bai codi’n digwydd.

Yn ôl Dr Chaand Nagpaul, cadeirydd cyngor y BMA, mae “risg enfawr” y gallai codi’r cyfyngiadau’n rhy gynnar “ddadwneud gwaith gwych y rhaglen frechu”, ac fe allai waethygu effeithiau hirdymor Covid-19 i lawer o bobol hefyd, meddai.

Ergyd

Byddai oedi tan fis Gorffennaf yn ergyd i’r gymdeithas ehangach, yn enwedig busnesau lletygarwch a hamdden.

Roedden nhw wedi bod yn gobeithio adennill peth o’r arian sydd wedi’i golli dros y flwyddyn ddiwethaf pe baen nhw’n cael agor yn ystod misoedd yr haf.

“Byddai unrhyw oedi wrth godi’r cyfyngiadau’n ergyd enfawr i nifer o deuluoedd a busnesau ledled y wlad,” meddai Nick Thomas-Symonds.

“Gweinidogion Ceidwadol sydd ar fai am hyn yn llwyr.

“Er gwaethaf rhybuddion gan Lafur, [pwyllgor gwyddonol] Sage ac eraill, fe wnaethon nhw barhau â pholisi ffiniau diofal wnaeth adael i amrywiolyn Delta gyrraedd y Deyrnas Unedig ac ymledu.

“Nawr mae’n edrych fel pe bai’n rhaid i bobol Prydain dalu’r pris.”

Amrywiolyn Delta

Yn ôl gwyddonwyr, mae 96% o achosion newydd o Covid-19 yn gysylltiedig ag amrywiolyn Delta.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Lloegr, fe fu 42,323 o achosion dros yr wythnos ddiwethaf – i fyny o 29,892 yr wythnos flaenorol.

Mae lle i gredu bod yr amrywiolyn hwn 60% yn fwy ymledol nag amrywiolyn Alpha a bod achosion yn dyblu pob pedwar i chwe niwrnod mewn rhai ardaloedd yn Lloegr.

Mae’r rhaglen brofi bellach yn cael ei hymestyn yn ne Llundain, lle bu cynnydd sylweddol mewn achosion, ac mae mwy o brofion bellach yn cael eu cynnal yn Swydd Staffordd a Sir Caer.