Mae pump o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 26 oed yng Nghasnewydd.

Cafwyd hyd i gorff y dyn toc ar ôl 9 o’r gloch nos Iau (Mehefin 10).

Aeth yr heddlu i Heol Balfe yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol, ac fe ddaethon nhw o hyd i’r dyn yn anymwybodol.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth yn ddiweddarach ar ôl i’r Gwasanaeth Ambiwlans fynd yno, ac mae’r heddlu’n cefnogi ei deulu.

Mae ddau ddyn 19 oed, dyn 18 oed a llanc 17 oed o Gaerdydd yn cael eu holi yn y ddalfa, yn ogystal â llanc 17 oed o Gaerffili.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.