Ymhlith yr enwogion sydd wedi derbyn anrhydeddau ar achlysur pen-blwydd Brenhines Loegr mae’r actor Jonathan Pryce o Dreffynnon, sydd wedi’i urddo’n farchog, a chyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ryan Jones, sy’n derbyn MBE.

Mae Martyn Phillips, cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi derbyn MBE.

Mae Beverley Humphreys, darlledwraig gyda BBC Cymru, hefyd wedi derbyn MBE.

Gwaith yn ystod y pandemig

Ond mae eraill wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yn ystod y frwydr yn erbyn Covid-19.

Yn eu plith mae Sharon Ann Thomas o Ben-y-bont ar Ogwr am ei gwasanaeth i blant a phobol ifanc, yn enwedig yn ystod y pandemig wrth geisio eu cadw’n ddiogel mewn gofal.

Mae Suan Trevor o’r Waun ger Wrecsam wedi’i chydnabod am ei gwaith gydag elusennau gofal iechyd, gan gynnwys ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt yn ardal Croesoswallt.

Mae Sarah Caul o Gaerdydd hefyd wedi derbyn MBE am ei gwaith gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyhoeddi ystadegau wythnosol am nifer y rhai fu farw.

Mae’r Sarjant Michael Taggart o’r Rhyl hefyd yn derbyn MBE am ei waith gyda’r rhai sy’n cael eu camdrin yn y cartref, a hynny ar ôl i’w fam gael ei llofruddio gan ei phartner.

Roedd ei waith yn allweddol wrth geisio cadw pobol yn ddiogel yn ystod y cyfnodau clo, ac yn cynnwys partneriaethau â nifer o fusnesau gan gynnwys banciau bwyd a fferyllfeydd.

Mae Tracy Myhill, cyn-bennaeth y Gwasanaeth Iechyd a’r Gwasanaeth Ambiwlans, yn derbyn OBE.

Mae Peter Thomas wedi derbyn MBE am ei waith yn cynghori Heddlu’r De ar iechyd meddwl, a hynny ar ôl i’w fab Jonathan ladd ei hun yn 2001.

Mae Sumit Goyal, oedd yn allweddol wrth sefydlu canolfan arbenigol ar gyfer cleifion canser yn Llandŵ wedi derbyn MBE.

Mae nifer o bobol yng Nghymru hefyd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth, gan gynnwys Tracy Baker o Bort Talbot am ei gwasaneth i roddi organau a phara-chwaraeon, John Anderson o Lanelli am ei wasanaeth i gludiant yn ystod y pandemig a Susan Rees o Sir Benfro am ei gwasanaeth i ofal iechyd.

Hefyd yn derbyn y fedal mae Rhys Mallows, aeth ati i gynhyrchu hylif glanhau dwylo ar safle distyllu wisgi ym Mro Morgannwg.

Mae Andy Swinburn o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Sue Owen-Williams, cynghorydd nyrsys gwasanaeth 111, hefyd yn derbyn Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Frenhines.

Mae Sue Owen-Williams o Fangor wedi codi arian sylweddol drwy ymgymryd â nifer o heriau elusennol.

Cydnabod gwaith arall

Ymhlith y bobol eraill sydd wedi cael eu hanrhydeddu ag MBE mae’r cynghorydd Dianne Elizabeth Rees o Gaerdydd, yr hanesydd pensaernïol ac awdur Sophie Andreae a Nigel Vernon Short o Hendy-gwyn ar Daf am ei wasanaeth i’r economi leol.

Mae Myer Glickman yn derbyn OBE am ei waith ym maes dadansoddi iechyd a’r Athro Helen James yn derbyn OBE am ei gwasanaeth i addysg uwch.