Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi croesawu’r newyddion bod Menter Ty’n Llan wedi llwyddo i brynu tafarn leol yn Llandwrog.

Roedd gan y criw tan ddoe (dydd Gwener, Mehefin 11) i godi’r swm angenrheidiol o £400,000.

Ymhlith y rhai fu’n galw am gefnogi’r fenter roedd yr actor Rhys Ifans, y gantores Mared, y digrifwr a chyflwynydd radio Tudur Owen a’r hyfforddwr a chyn-chwaraewr rygbi Robin McBryde.

Caeodd y dafarn ei drysau yn 2017 ac mae’r fenter yn dweud y gellid ailagor y safle 200 oed fel siop bentref, caffi a chanolfan gymunedol hefyd.

‘Hanfodol ar gyfer goroesiad y Gymraeg’

“Rwy’n falch iawn o glywed am lwyddiant Menter Ty’n Llan i gyrraedd eu targed,” meddai Siân Gwenllian.

“Dros y degawdau mae cymunedau Arfon wedi dysgu nad oes modd ddibynnu bob tro ar gwmnïau mawr gyda’u pencadlysoedd ymhell o’r ardal.

“Mae mentrau fel Menter Ty’n Llan yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ein pentrefi bychain, ac mae mentrau cymdeithasol yn rhan bwysig o’r ymdrech i greu cymunedau gwydn.

“Mae goroesiad cymunedau o’r fath yn hanfodol ar gyfer goroesiad y Gymraeg.

“Hoffwn longyfarch y rhai sydd ynghlwm â Menter Ty’n Llan, ac edrychaf ymlaen at gael ymweld.”