Roeddwn i’n trio ffeindio’r stafell gywir, mewn rhyw adeilad digon neis ond dieithr. Ro’n i’n hwyr am rywbeth pwysig – cyflwyno cerddi, dw i’n meddwl. Daeth y teimlad cyfarwyddwyr, annifyr yna drosta i – sâl i’m stumog ac yn llawn cywilydd.
Dro arall, roeddwn mewn bwyty ‘boho’ hyfryd, hefo byrddau hir i bobol gael cymdeithasu, ac roeddwn wedi holi am y sefyllfa ddi-glwten; daeth y gweinydd yn ôl gan ddweud bod y chef wedi bod wrthi’n datblygu pecyn bwyd – gwledd ddi-glwten, gyda palatial o gig a bara, a ffrwythau; pris y we’d oedd £60 yr un. Teimlais ba if gan fy mod yn dechrau teimlo’n wan, ac yn chwyslyd, ac roedd fy mhen yn troi’n chwil; doedd gen i ddim £60 i dalu am y bwyd.
A dyma’r math o hunllefau rwy’ wedi bod yn deffro ohonyn nhw dros yr wythnosau diwethaf.
Breuddwydion pryder
Mae breuddwydion pryder yn gyffredin iawn, wrth gwrs, a fues yn dioddef o reini ers talwm hefyd.
Cerdded trwy ganol Wrecsam a sylweddoli nad oeddwn wedi rhoi crys-t na bra amdanaf; ymlacio hefo paned ac yna’n sydyn yn cael neges fy mod yn hwyr am arholiad, neu fod dyddiad cau aseiniad gen i erbyn diwedd y dydd, a finnau heb gychwyn astudio, heb sôn am sgwennu!
Mae breuddwydion am fod yn noeth yn deillio o ddiffyg hunanhyder, ac efallai hefyd o boeni’n ormodol beth mae pobol eraill yn meddwl amdanoch. Pan wnes i ddechrau canlyn fy ngŵr, cefais freuddwydion niferus fod fy nannedd yn cwympo allan – arwydd o ddiffyg hyder delwedd corff.
Roedd y breuddwydion am arholiadau ac aseiniadau yn ymwneud hefo diffyg hyder yn fy ngallu i lwyddo yn fy ngradd, ac yna gyda’r doethuriaeth, ac o boeni dan bwysau deadlines. Ond mi wnaethon nhw barhau am flynyddoedd tu hwnt i fod yn fyfyriwr, fel ryw adlais o’r pryder, wrth i fy psyche geisio gwneud synnwyr o’r creithiau gafodd eu gadael ene gan y straen.
Ond mae fy hunllefau cyn-steddfod yma yn llai haniaethol, wedi’u gwreiddio mewn gwybodaeth am fy mhroblemau cof gofodol, gwaddol hirdymor salwch a thriniaeth; a realaeth yr Eisteddfod o ran cyflenwad bwyd di-glwten, a’r ffaith fod y bwyd yn gyffredinol ddrud ene.
Y blŵs cyn steddfod
Mae’n anodd rhoi bys ar sut dw i’n teimlo heno, wrth baratoi i yrru am ryw bedair awr lawr i Bontypridd i’r steddfod. Dw i’n edrych ymlaen i raddau, ond mae yna hefyd ryw deimlad anghyffyrddus – breuder, a theimlo’n fwy nag arfer fod bod yn ddi-glwten yn niwsans.
Wrth sbio’n ôl ar y golofn sgwennais adeg yma’r flwyddyn ddiwethaf, rhaid gwenu wrth ddarllen am y wledd ddi-glwten drefnais i fi fy hun, i baratoi at y slim pickings draw ar faes yr Eisteddfod i bobol fel fi. Dw i wedi bod yn llai trefnus flwyddyn yma!
Ac mae hi dal yn fy synnu fod cyflenwyr bwyd yn y sefyllfa yma ddim yn gweld gwerth y bunt ddi-glwten; dw i’n teimlo y dylen greu negeseuon atyn nhw a dweud, ‘cymrwch fy arian plîs, dw i’n fodlon talu’n dda am fwyd wneith ddim fy ngwneud i’n sâl!’
Yn ddiweddar, rwy’ wedi bod yn sgwrsio hefo rhywun o’r sîn blŵs, ac o ganlyniad rwy’ wedi prynu llyfr am hanes y blŵs. A hynny, mae’n debyg, sydd wrth wraidd fy synfyfyrion am droi’r felan yn ganeuon blŵs – taswn i ond yn gallu chwarae’r organ geg!
Datrysiad amlwg, ond anodd i’w wireddu
Pabell syml fydd fy nghartref dros wythnos yr Eisteddfod, a dyna pam dw i mor ddibynnol ar y stondinau bwyd ar y maes, a’u darpariaeth gyfyngedig. Ac ydw, dw i wedi ystyried mentro tu hwnt i’r maes a thrio’r bwytai yn yr ardal – dyma, rwy’n credu, oedd wrth wraidd yr hunllef ges i am y bwyty ‘boho’!
Tasai gen i garafán, neu’n well fyth camperfan, fyswn yn medru dod â bwyd di-glwten hefo fi, a’i goginio, gan safio ffortiwn i mi fy hun yn ogystal â lleihau pryder am bob pryd o fwyd fydd ei angen arna i.
Ond mae pethau felly yn ddrud ac yn fuddsoddiad mawr na fedraf ei gyfiawnhau, na hyd yn oed ddychmygu bod yn medru ei fforddio.
Ac wrth sbio at Sara-flwyddyn-diwethaf am cyngor a doethineb, gwelaf taw’r datrysiad, byr-dymor o leiaf, yw i stocio fyny ar ‘creision, bisgedi, siocled a.y.b. Sothach, ond sothach saff!’
Wel, mae hi’n well na llwgu neu bwyta bwydydd amheus. Ac ella unwaith i mi lenwi’r car hefo pethau felly, fydd yr hunllefau am fwyd yn darfod, a ga’i canolbwyntio ar ffeindio’r stondinau a mangreoedd dw i’n perfformio ynddi – oriau cyn i mi angen bod ene – a cael lleihau ar fy mhryder gymaint a sydd yn bosib.
Ac yna ella hefyd, troi fy mhryder yn rhyw fath o lyrics blŵsi…a’i rhannu nhw’n fideos ‘TikTok’!