Mae Rhondda Cynon Taf yn un o’r ychydig siroedd sydd wedi dangos cynnydd bach yn niferoedd a chanran ei siaradwyr Cymraeg ers dechrau’r ganrif. Mae’r sefydlogrwydd cymharol hwn yn dilyn canrif o’r llanw a thrai mwyaf syfrdanol yn hanes yr iaith a welwyd mewn unrhyw rhan o Gymru…
Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, yn 2021, mae un ym mhob wyth o drigolion Rhondda Cynon Taf yn gallu siarad Cymraeg, allan o boblogaeth o ychydig llai na chwarter miliwn.
Mae hyn yn ffurfio cyfanswm o 28,500, sy’n gynnydd o bron i 800 o gymharu â Chyfrifiad 2011. Er mai cynnydd bach yw hyn, roedd Rhondda Cynon Taf yn un o bedair sir yn unig yng Nghymru i ddangos cynnydd o gwbl.
Ar yr olwg gyntaf, mae modd dehongli hyn fel arwydd calonogol o adfywiad graddol y Gymraeg yn y Cymoedd, er bod y darlun ychydig yn fwy cymhleth na hynny. Mewn gwirionedd, mae rhan helaethaf y twf dros y ddau neu dri degawd diwethaf wedi digwydd mewn ardaloedd yng ngwaelodion y sir sydd ar gyrion Bro Morgannwg a Chaerdydd. Ar yr un pryd, mae’n ymddangos bod cymoedd y Rhondda a Chynon yn profi heriau digon tebyg i ardaloedd eraill tebyg cyfagos yn y de-ddwyrain.
Mae dosbarthiad y Gymraeg yn y sir wedi newid yn raddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf gyda rhai o’r pentrefi maestrefol deheuol â chyfrannau sylweddol uwch yn gallu siarad yr iaith nag yn y rhan fwyaf o flaenau’r cymoedd bellach. Dros yr un cyfnod, mae dosbarthiad poblogaeth y sir hefyd wedi newid, gyda symudiad pendant i lawr y cymoedd i gyffiniau Pontypridd.
Cyn ymhelaethu ar sefyllfa bresennol y Gymraeg yn y sir, mae’n werth edrych yn ôl dros y newid cwbl syfrdanol ddigwyddodd dros y ganrif a mwy diwethaf. Mae hyn yn rhoi cyd-destun gwerthfawr wrth ystyried maint y dasg i adfywio’r Gymraeg yno yn ein dyddiau ni.
Cryfder rhyfeddol
Mae gwybodaeth o Gyfrifiad 1901 ar gyfer ardal sy’n cyfateb yn bur agos i sir Rhondda Cynon Taf heddiw yn dangos cryfder rhyfeddol y Gymraeg yno. Ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd o leiaf 125,000 o bobol yn gallu siarad Cymraeg yn ardal y sir, gan gyfrif am bron i 60% o’r boblogaeth. Roedd tua hanner poblogaeth yr ardal yn byw yng nghymoedd y Rhondda (o gymharu ag ychydig dros chwarter pobol y sir heddiw), lle’r oedd bron i ddau draean y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Yn Aberdâr, roedd dros 70%, er bod y gyfran yn is na’r hanner yn is i lawr Cwm Cynon yn ardal Aberpennar, ac ond ychydig dros draean ym Mhontypridd, lle’r oedd y broses o Seisnigo wedi dechrau o leiaf genhedlaeth neu ddwy ynghynt.
Yn y Rhondda, cymharol ychydig o arwyddion oedd o’r chwalfa ddiwylliannol fyddai’n digwydd dros y degawdau dilynol, gyda mwyafrif clir o blant yn gallu siarad Cymraeg, er bod y cyfrannau rywfaint yn is na’r hyn oedden nhw ymysg oedolion hŷn.
Roedd deng mlynedd gyntaf yr ugeinfed ganrif yn adeg o dwf aruthrol yn ardal Rhondda Cynon Taf, fel yng ngweddill Morgannwg. Cododd poblogaeth ardal Rhondda Cynon Taf o ryw 210,000 yn 1901 i 280,000 erbyn 1911 – cynnydd o 70,000 – neu 33% – mewn deng mlynedd.
Cododd nifer siaradwyr Cymraeg yr ardal i oddeutu 140,000, ond gostyngodd eu canran yn sylweddol i fymryn dros yr hanner.
Roedd y cynnydd barhaodd yn y Rhondda yn golygu bod poblogaeth y ddau gwm wedi bron â threblu yn y 30 mlynedd ers 1881. Hawdd deall pam y daeth i fod y mwyaf adnabyddus o holl gymoedd y de, a hefyd bwysigrwydd ei arwyddocâd yn hanes y Gymraeg. Roedd y cyfanswm o dros 75,000 o siaradwyr Cymraeg yn y ddau gwm erbyn 1911 yn cyfrif am bron i 8% o holl boblogaeth Gymraeg Cymru – o wneud cymhareb debyg heddiw, byddai’r ganran yn nes at 1%, wrth i’r niferoedd ddegymu i 7,500.
Er bod mwyafrif clir o oedolion y Rhondda yn gallu siarad Cymraeg yn 1911, roedd arwyddion dirywiad yn dechrau dod i’r amlwg wrth i’r ganran ostwng islaw’r hanner ymysg plant o dan ddeg oed.
Yr hyn ddaeth i’r amlwg rai degawdau’n ddiweddarach oedd mai cyfran fach iawn o’r plant a’r bobol ifanc oedd yn gallu siarad Cymraeg mewn cymoedd fel Rhondda a Chynon ym mlynyddoedd cynnar y ganrif fyddai’n trosglwyddo’r iaith.
Chwalfa’r 1960au
Erbyn Cyfrifiad 1961, roedd cyfran uchel iawn o’r bobol oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ardal Rhondda Cynon Taf yn dynesu at eu 65 oed, neu’n hŷn na hynny. Prawf o gywirdeb ffigurau’r Cyfrifiad oedd mor debyg oedd canrannau’r bobol dros 65 oed allai siarad Cymraeg mewn lleoedd fel y Rhondda yn 1961 i’r canrannau cyfatebol ymysg plant yn 1901 a 1911.
Er hyn, roedd tua 49,000 o bobol yn dal i allu siarad Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf yn 1961, a’r rheini’n cyfrif am 21% o’r boblogaeth. Yn ystod yr 1960au y digwyddodd y chwalfa fawr, wrth i’r niferoedd ostwng i 27,000 a’r ganran i ychydig o dan 12% erbyn Cyfrifiad 1971.
Hanerodd nifer siaradwyr Cymraeg Bwrdeistref y Rhondda o 23,000 yn 1961 i ychydig dros 11,000 dros y cyfnod hwnnw, fel nad oedden nhw ond ychydig dros 13% o’r boblogaeth erbyn 1971. Tebyg oedd y sefyllfa yn Aberdâr, lle gostyngodd y ganran o draean i lai na chwarter.
Wrth weld colledion fel hyn, ac o gofio arwyddocâd cymoedd Rhondda a Chynon i’r bywyd Cymraeg, hawdd yw deall y math o bryderon ddatblygodd yn yr 1960au a’r 70au fod y Gymraeg yn marw. Doedd yr hyn oedd yn digwydd yn y cymoedd hyn a rhai tebyg iddyn nhw ddim yn adlewyrchiad o’r sefyllfa yng Nghymru gyfan o bell ffordd, wrth gwrs. Er hyn, gallwn fod yn sicr fod pryderon o’r fath wedi dwysáu ymgyrchoedd mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith ar y pryd.
Hyd yn oed ymhlith gweddillion siaradwyr Cymraeg ardal Rhondda Cynon Taf yn 1971, roedd anghydbwysedd oedran yn parhau, gan wneud dirywiad pellach yn anochel, gan gyrraedd isafbwynt o ryw 20,500 erbyn 1991, gan gyfrif ond am ychydig dros 9% o’r boblogaeth.
Tro rhannol ar fyd
Wedi’r holl ddegawdau o ddirywiad, daeth arwyddion o dro ar fyd ar gychwyn canrif newydd yng nghyfrifiad 2001. Saethodd y niferoedd oedd yn gallu siarad Cymraeg yn y sir yn ôl i dros 27,000 a chododd y ganran i 12.3%.
Roedd y cynnydd hwn i’w briodoli’n bennaf i gynnydd ymysg plant tair i 15 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg, wrth i’w niferoedd godi bron i 5,000 a’u canran o 17% yn 1991 i dros 28% erbyn 2001.
Roedd yn adlewyrchu tueddiad tebyg gafodd ei weld yn y rhan fwyaf o Gymru, er nad oedd ar raddfa lawn mor afrealistig ag mewn rhai siroedd i’r dwyrain iddi.
Os oedd colledion yr 1960au wedi arwain at feddylfryd bod y Gymraeg yn marw, mae’n debyg mai gorymateb i’r eithaf arall ddigwyddodd i Gyfrifiad 2001. Gobaith cyffredin ymysg amryw o garedigion y Gymraeg oedd y byddai cynnydd fel hyn ymysg plant yn arwain yn anochel at dwf cyffredinol drwy bob oed yn raddol dros y degawdau.
Bellach, wrth gwrs, gwyddom nad yw hyn yn wir, fel y gallwn weld wrth groesgyfeirio ffigurau o ddegawd i ddegawd. Os cymharwn faint o blant ysgol pump i 14 oed allai siarad Cymraeg yn 2001 ag oedolion ifanc 25-34 oed ugain mlynedd yn ddiweddarach (sef yr un genhedlaeth), roedd eu niferoedd a’u canran wedi haneru yn y sir.
Yn ôl i 2021
Er y cynnydd cyffredinol yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf erbyn Cyfrifiad 2021, lleihad sylweddol gafwyd yn y plant allai siarad yr iaith. Roedd eu niferoedd wedi gostwng 1,600 o gymharu â 2011, a’u canran wedi llithro’n ôl i 25.4%.
Go brin fod hyn yn achos pryder fodd bynnag; mae’n fwy tebygol o fod yn adlewyrchiad mwy realistig o’r sefyllfa. Yn wir, mae modd dadlau bod y ffigwr hwn yn dal yn rywfaint yn rhy uchel i fod yn gredadwy, gan mai llai nag 20% o blant y sir sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cynnydd, yn hytrach, wedi bod ymysg pobol ganol oed ac iau, yn arbennig ymysg pobol 35-49 oed, gyda 1,500 yn fwy ohonyn nhw yn gallu siarad Cymraeg yn 2021 o gymharu â 2001.
Mae’r patrwm daearyddol o fewn y sir yn arbennig o ddiddorol, ac i raddau helaeth yn wyrdroad llwyr o’r hyn a fu.
Yn draddodiadol, blaenau’r cymoedd oedd cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg a’r ardal ddeheuol yn fwy Seisnig. Bellach, mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg i’w cael mewn cylch sy’n ymestyn o Lantrisant i Bontypridd. Treorci a Hirwaun a Phenderyn yw’r unig wardiau ym mlaenau’r cymoedd sydd â chanrannau uwch na chyfartaledd y sir.
Wrth edrych ar yr ardaloedd lleiaf mae’r Cyfrifiad yn rhoi gwybodaeth amdanyn nhw – yr ardaloedd cyfrif (output areas) – mae’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg (31.8%) i’w chael ym mhentref Efail Isaf yn ward Llanilltud y Faerdref. Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd eraill sydd â chanrannau o chwarter neu fwy hefyd wedi’u lleoli o fewn wardiau cyfagos Pontyclun a Phentre’r Eglwys.
Gallwn ddyfalu fod llawer o’r twf mewn ardaloedd fel hyn, sydd mewn gwirionedd ar gyrion Caerdydd, o ganlyniad i siaradwyr Cymraeg yn symud iddyn nhw o rannau eraill o Gymru. Yn anffodus, nid yw’r Cyfrifiad yn rhoi dim gwybodaeth inni ar hyn.
Gall y twf fod yn adlewyrchiad hefyd o siaradwyr Cymraeg yn symud i lawr y cymoedd o fewn y sir. Mae niferoedd siaradwyr Cymraeg y Rhondda wedi parhau i ostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf, yn rhannol o ganlyniad i leihad yn y boblogaeth a hefyd yn sgil colledion sy’n parhau ymysg y to hŷn. Roedd dros bedair gwaith gymaint o bobol dros 65 oed yn gallu siarad Cymraeg yng nghymoedd Rhondda a Cynon yn 1991 nag oedd erbyn 2021.
Er hyn, calonogol yw nodi bod y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn llawer uwch ymysg oedolion iau nag oedolion dros 50 oed yn y ddau gwm bellach. Os bydd y tueddiad yma’n parhau, mae gobaith felly y bydd y ddau gwm hyn, sydd â hanes mor gyfoethog, yn gweld cynnydd graddol maes o law.
Yn sicr, mae’r tir sydd wedi cael ei adennill yn Rhondda Cynon Taf y ganrif hon yn dangos gobaith at y dyfodol. Ar yr un pryd, mae’n dangos hefyd nad oes atebion hawdd, ac mai gwaith araf a graddol ydi ail-greu cynefinoedd Cymraeg unwaith maen nhw’n cael eu colli.
Yn sicr, gall y sir ymfalchïo yng nghyfoeth ei threftadaeth Gymraeg ac yn arwyddocâd arbennig yr iaith yn ei hanes. Yr her fydd manteisio i’r eithaf ar y waddol hon i ysbrydoli cynnydd pellach yn y defnydd o’r Gymraeg yno heddiw.
- Rhagor o wybodaeth am hanes y Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf a siroedd eraill i’w gael ar www.atlasygymraeg.cymru.