Mae Plaid Cymru wedi beirniadu diffyg uchelgais a diffyg gwaith paratoi Llywodraeth Lafur Cymru tuag at gyrraedd y targed o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r Blaid wedi cyfeirio at gwymp yn nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg dros y tair blynedd diwethaf, a’r ffaith mai dim ond dwy ysgol Gymraeg newydd sydd wedi agor dros y cyfnod.
Yn ôl Cefin Campbell, llefarydd addysg y blaid, mae’r sefyllfa’n hynod bryderus.
Dywed y Blaid hefyd fod y gwymp yn nifer yr athrawon yn gyffredinol yng Nghymru o bron i 600 yn hynod bryderus, gan y byddai llawer o’r rhain wedi chwarae rhan hanfodol wrth dyfu’r Gymraeg.
‘Siom’
“Mae’n hynod bryderus ac yn fater o siom gweld diffyg uchelgais a gwaith cynllunio Llywodraeth Lafur Cymru tuag at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai Cefin Campbell.
“Mae’n deg dod i’r casgliad nad oes gobaith cyrraedd y targed hwn gydag agwedd mor ddi-hid gan Lywodraeth bresennol Cymru.
“Mae cwymp wedi bod yn nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg, ac mae’r ffaith mai dim ond dwy ysgol Gymraeg newydd sydd wedi cael eu hagor yng Nghymru dros y dair blynedd ddiwethaf yn adlewyrchiad damniol o ddiffyg blaenoriaeth gan y Llywodraeth Lafur.
“Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am fwy o fuddsoddiad mewn athrawon ac am agor mwy o ysgolion Cymraeg.”
‘Cam yn ôl’
“Rwy’n siŵr y gwelwn Weinidogion Llafur yr wythnos hon yn yr Eisteddfod yn honni eu bod yn parhau yn ymrwymedig i’r targed o filiwn, ond yn anffodus does dim tystiolaeth i gefnogi’r uchelgais hwn,” meddai Cefin Campbell wedyn.
“Yn hytrach na symud ymlaen ar fyrder, rydym yn cymryd cam yn ôl!
“Mae’n amlwg i bawb, felly, nad yw’r sylfeini cryf sydd eu hangen wedi eu gosod mewn lle er mwyn ein symud yn nes at y targed hwnnw.
“Does dim cynnydd sylweddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy’r Gymraeg ac mae gwahaniaeth daearyddol enfawr o fewn Cymru o ran argaeledd athrawon a chyfleoedd i ddysgu drwy’r Gymraeg yn lleol.
“Mae yna hefyd nifer sylweddol o athrawon sy’n gallu dysgu drwy’r Gymraeg ond sydd ddim yn cael gwneud hynny ar hyn o bryd achos diffyg swyddi.
“Mae’r gwymp yn nifer yr athrawon yn dangos nad yw’r Llywodraeth Lafur hon ychwaith wedi mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw athrawon yr ydym yn ei wynebu.
“Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn manteisio ar y cyfle drwy gael Prif Weinidog newydd i ail-edrych ar ei hymrwymiad tuag at yr iaith, a sicrhau bod Bil y Gymraeg ac Addysg cadarn yn mynd i arwain at dwf sylweddol yn siaradwyr yr iaith.
“Mae angen uchelgais, ond mae angen gweithredu cadarnhaol arnom hefyd.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’n siomedig clywed y sylwadau hyn gan Blaid Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio o 2021 hyd at yn gynharach eleni, roedden nhw’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ystod o brosiectau i gefnogi’r Gymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Dim ond fis diwethaf, ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg gerbron y Senedd, sy’n anelu at roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, beth bynnag fo’u cefndir a pha bynnag gategori iaith mae’r ysgol y maent yn ei mynychu.
“Rydym yn cydnabod yr her o gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg ac yn parhau i gefnogi recriwtio i’r proffesiwn addysgu.
“Mae ein Cynllun Gweithlu Cymraeg mewn Addysg yn nodi nifer o gamau uchelgeisiol sy’n gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu’r gweithlu dros y 10 mlynedd nesaf.
“Byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion a’n hathrawon i gyflwyno mwy o Gymraeg i fwy o ddysgwyr.
“Mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn cynnig sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi pobol o bob oed i ddysgu Cymraeg, cynllunio ar gyfer datblygu’r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu’r Gymraeg, darparu cyfeiriad strategol ac arweiniad i ddarparwyr dysgu, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.”