Mae gwleidydd a chyn-wleidydd Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn, ar ôl i’r Arglwydd Byron Davies awgrymu bod “cyfiawnhad gwleidyddol” dros yr anhrefn mewn nifer o ddinasoedd yn y Deyrnas Unedig dros y dyddiau diwethaf.
Roedd y newyddiadurwr a cholofnydd Dan Hodges wedi dweud ar X (Twitter gynt) nad oedd “dim cyfiawnhad gwleidyddol dros yr anhrefn welson ni”.
Yn y neges, mae’n mynd yn ei flaen i ddweud bod y “Torïaid mewn grym am 14 o flynyddoedd”, ond fod Llafur “ond wedi bod mewn grym ers pedair wythnos” a bod “beio Keir Starmer ac Yvette Cooper am hyn yn warthus”.
Atebodd yr Arglwydd Byron Davies (Gŵyr), Ysgrifennydd Cymru Cysgodol y Ceidwadwyr, fod “Llafur wedi atal Bil Rwanda 130+ o weithiau”, cyn ychwanegu “wrth gwrs ei fod yn wleidyddol gyfiawn”.
‘Cywilyddus’
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a Hywel Williams, cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi beirniadu sylwadau Byron Davies.
“Does yna fyth gyfiawnhad gwleidyddol o unrhyw fath dros drais hiliol,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rhethreg gywilyddus gan Ysgrifennydd Cymru Cysgodol y Ceidwadwyr.”
Yn ôl Hywel Williams, os yw Byron Davies yn awgrymu bod cyfiawnhad dros yr anhrefn, “tydi o ddim ffit” i fod yn weinidog cysgodol, “nac o ran hynny yn aelod o ddeddfwrfa ddemocrataidd”.
Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, hefyd wedi ychwanegu ei lais at y rhai sy’n beirniadu’r sylwadau.
“Sylw hollol ffiaidd gan Dori blaenllaw o Gymru,” meddai.
“Dylai Byron Davies deimlo’r cywilydd mwyaf a cholli’r chwip am gyfiawnhau’r terfysgoedd hil yma.
“Mae ceisio honni y byddai Bil Rwanda yn datrys unrhyw beth yn ymwneud â hyn yn dangos rhyw wacter o’r cortecs blaen.”
Mae Byron Davies bellach wedi ymddiheuro.