A felly daw’r awr, a finnau yn gwneud fy mharatoadau at wersylla mewn pabell am wythnos, er mwyn cael bod reit yng nghanol pethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mewn rhai ffyrdd, mae’n brofiad reit lletchwith a phryderus; am un peth, dwi dal ddim yn gyfarwydd hefo, nac yn teimlo’n gyffyrddus yn yr Eisteddfod Genedlaethol – profiad cyffredin ymysg rhai ohonom o Wrecsam, yn ôl sgwrs ges i hefo cyfaill yn ddiweddar – ond fwy am hynny mewn erthygl arall ar y gweill.

Dwi, wrth gwrs, yn meddwl am y pethau fydd yn gyffredin i nifer fawr o steddfotwyr, megis yr angen i agor fy mhabell allan, gwirio ei bod hi’n sych ac wedi goroesi’r gaeaf yn y shambles o sied sydd gennym ar hyn o bryd. Gwirio hefyd fod gen i’r pegs yn yr un bag (dwi’n un dda am roi pethau mewn bagiau ar wahân am resymau sy’n gwneud synnwyr ar y pryd…).

Ac yna byddaf yn dechrau ystyried beth fyddaf yn ei fwyta tra’n gwersylla; mae hyn yn peri penbleth mawr i’r sawl ohonom sydd angen osgoi gwenwyn y gwenith!

Gwledd y stondinau bwyd yn y Steddfod

I fod yn glir, dwi wrth fy modd hefo bwyd gwyliau fel hyn. Dwi’n ffan mawr o sglodis, a byrgers, ac, fel Cheryl Pobol y Cwm, dwi’n reit hoff o ‘Full Wrecsam’ yn y bore. Dwi hefyd wrth fy modd â pizza, selsig o bob math gan gynnwys cŵn poeth, a phan ddaw fy mrawd a’i deulu Goanaidd-Gymreig, braf iawn yw cael pryd hefo’n gilydd o’r stondin sy’n gwerthu bwyd Indiaidd.

Dydw i ddim, felly, yn fussy, fel mae rhai yn awgrymu weithiau, fel esboniad ynghylch pam dw i’n chwilio am fwyd di-glwten. Dydw i ddim chwaith yn llysieuwr, felly mi all bwyd heb gig dal fy ngwneud i’n sâl – ia wir, hyd yn oed os yw e’n figan!

Ond yn anffodus, mae llawer iawn o fwydydd yn cynnwys glwten – os oes ganddo wenith ynddo, megis blawd, mae’n medru fy ngwneud yn sâl. Flwyddyn ddiwethaf, mi wnes i lwyddo i ddod o hyd i ddwy stondin ar y Maes oedd yn gwneud bwyd oedd yn saff i mi ei fwyta, felly cedwais atyn nhw am ran fwya’r wythnos… heblaw am un slip up, ac mi wnes i ddifaru hynny’n arw!

Mae’r diffyg darpariaeth, felly, yn fy ngadael i’n gwerthfawrogi’r wledd Eisteddfodol hefo fy llygaid yn unig. A dw i’n gweld hyn fel colli cyfle busnes posib – dwi’n foodie go iawn, ac yn hoff iawn o giniawa! A be’ debyg fod hyn yn wir am lawer iawn o bobol sydd yn yr un cwch.

Punt ddi-glwten

Am amrywiaeth o resymau, mae yna lawer iawn o bobol yn gorfod, neu yn dewis osgoi glwten. Mae yna farchnad go fawr felly am fwydydd sydd yn saff iddynt eu bwyta, ac mae mwy a mwy o fusnesau erbyn hyn yn dechrau addasu eu bwydlenni i gynnig opsiynau. Ond mae yna dal dipyn o ffordd i fynd.

Dw i wedi cael fy hun flwyddyn yma’n gyrru 15 munud allan o fy ffordd wrth yrru adref, oherwydd fy mod yn gwybod am siop sglodis mewn tref gyfagos sydd ag opsiynau di-glwten – mwy am hyn rywbryd arall. Ac yn ddiweddar, wrth google-o ‘Gluten free Flintshire’, fe ddes ar draws y busnes ‘The Gluten free world’ sydd jyst dros y ffin, ac yn agos iawn at le rwy’n byw fa’ma. Felly, gyda fy mhunt ddi-glwten yn llosgi yn fy mhoced, porais y wefan a phrynais pob math o pastai, bara, peis, a donuts.

Cafodd y wledd ei thywys i’r tŷ, a wnes i a’r gŵr wledda arni. Rwy’n falch o ddweud y medraf lwyr argymell y cwmni a’r nwyddau hyn os ydych yn osgoi glwten ac yn hiraethu am ‘fwydydd cysur’.

Yn sicr, bydd y busnes yma yn cael llawer iawn o fy mhunnoedd di-glwten yn y dyfodol. Ac mae’r wledd hon wedi fy modloni am nawr, yn barod am y slim pickings dwi’n eu rhagweld ar faes yr Eisteddfod.

Creision a sothach arall

Mae gen i freuddwyd… bod yn berchen camperfan, neu garafan, a chael mynychu’r Steddfod mewn steil. Cysgu’n gynnes braf a chael anwybyddu’r glaw a’r gwynt rywfaint. Ac ia, cael ffrij fach i gadw cynhwysion ynddi, a stôf er mwyn cael paratoi bwydydd di-glwten arni. Ond breuddwyd bell yw hynny ar hyn o bryd.

Ac felly, beth fedraf ei gymryd hefo fi, er mwyn cael digon o fwyd i fwynhau fy hun yn ystod yr Eisteddfod? Wel, mae rice cakes yn opsiwn da fel man cychwyn. Fel pob dim arall ar y rhestr, nid oes angen eu cadw’n oer, ac maen nhw’n para’n hir cyn agor y pacedi. Ond maen nhw braidd yn ddiflas yn fy marn i!

Daw fy newisiadau eraill o’r adran creision, bisgedi, siocled a.y.b. Sothach, ond sothach saff! Ymlaen â fi i Foduan.