Dyw’r hafau yng Nghymru byth yn heulwen ddi-dor! Fe ddaw’r glaw bron heb eithriad i’n trochi ac i roi rheswm i ni gwyno neu freuddwydio am fod ar ryw ynys boeth yn rhywle. Mae’r ci dan draed a’r plant yn swnian… Beth amdani felly? Mae llawer o’r cynnyrch rwy’n ei gyhoeddi yma yn faethlon ac iach, ond bob hyn a hyn mae angen trît felys – a be’ well na sleisen hael o’r hen ffefryn, Rocky Road? Byrbryd melys siocled a marshmallow. Mae’n rywbeth all ddod â’r teulu at ei gilydd a chau cegau’r plant!
Beth ydw i ei angen?
Paced o fisgedi (wnes i ddefnyddio Maryland)
135g o fenyn
200g siocled (tywyll yn fwy cyffredin, er i mi ddefnyddio siocled llaethog a gwyn)
2-3 llwy fwrdd o syrup
100g o marshmallow
Cyrens (cledr llaw)
Addurniadau o’ch dewis
Coginio?
Irwch a leiniwch dun brownies 18cm sgwâr gyda phapur pobi.
Rhowch 200g o fisgedi mân, wedi’u malu gyda rholbren, mewn bag rhewgell a’u gosod o’r neilltu.
Toddwch 135g o fenyn neu fargarîn mewn sosban fawr, 200g o siocled llaethog a gwyn a 2-3 llwy fwrdd o syrup euraidd dros wres ysgafn gan ei droi’n gyson nes bod dim, neu bron ddim mwy o lympiau o siocled i’w gweld, yna tynnwch o oddi ar y gwres. Gadewch iddo oeri.
Cymerwch y bisgedi, 100g o marshmallow a hyd at 100g o gynhwysion ychwanegol (ffrwythau sych neu gnau), os mynnwch, a’u troi i mewn i’r gymysgedd siocled nes bod popeth wedi’i orchuddio’n llwyr.
Rhowch y cymysgedd yn y tun pobi wedi’i leinio, a’i wasgaru i’r corneli. Oerwch o am o leiaf ddwy awr cyn ei weini a’i fwynhau.