Ydach chi wedi blino ‘snacio’ ar yr un pethau? Ffeindio hi’n anodd meddwl am syniadau newydd? Rydach chi wedi dod i’r lle iawn! Mae’r parseli sbigoglys a Ricotta yma yn anhygoel o flasus, yn ogystal â bod yn llysieuol. Acw, ddaru nhw ddim para mwy nag awr a’r cyfan oedd ar ôl i’w ddangos oedd flakes tlawd o pastry.

Gallwch eu gwneud yn yr air fryer neu bopty a’u rhewi os oes gennych chi beth yn weddill, ond go brin!

Er fy mod i’n eu trin fel snac yma – gallwch eu rhannu fel pryd cychwynnol gyda ffrindiau, eu cael fel pryd ysgafn gyda salad bach ar yr ochr, neu eu cael fel snac gyda’ch gwesteion. P’run bynnag sydd orau gennych, dw i’n addo na wnaiff y rhain ddim siomi!


Beth fydda i ei angen?

Garlleg (3 clove)

Sbigoglys (200g)

Ricotta (300g)

Parmesan (chwarter cwpan)

Cheddar (dwy gwpan)

Spring onion

1 wy

Pupur a halen

Puff pastry


Coginio?

Torrwch y garlleg yn fan, ei ffrio a’i droi’n gyson am tua 30 eiliad.

Ychwanegwch y sbigoglys a’i droi yn gyson am tua dau funud nes ei fod wedi gwywo.

Ychwanegwch bupur a halen a thynnu’r badell oddi ar y stôf a’i roi i oeri o’r neilltu.

Ychwanegwch ricotta, parmesan, cheddar, wy a nionyn gwyrdd mewn powlen a’i gymysgu yn iawn.

Ychwanegwch y sbigoglys a’r garlleg at y cymysgedd, a chymysgu’r cyfan i’w gyfuno.

Torrwch y sgwâr puff pastry yn ei hanner i greu dau betryal.

Gwasgarwch y gymysgedd mewn siâp log i lawr un ochr o’r ddau ddarn, a brwsio’r ochrau gyferbyn gyda melynwy.

Rhowliwch y darnau yn dynn i’w cau, gan gadw’r ymyl yn wynebu i lawr.

Rhowch y ddwy rôl ar fwrdd torri, a’u rhoi yn yr oergell am 15 munud.

Tynnwch nhw allan a thorri pob rholyn yn bedwar darn, a’u brwsio gyda melynwy.

Gosodwch nhw yn yr air fryer a’u coginio ar 200C am 15-20 munud nes eu bod nhw’n aur yr olwg ac wedi coginio drwyddyn nhw.

(Os ydych chi am eu coginio yn y popty, fe ddylai gymryd tua 25 munud).

Mi fedrwch chi nawr eu rhannu gyda’r teulu a ffrindiau, ond byddwch yn ofalus – fyddan nhw ddim o gwmpas yn hir!