Mae hwn ychydig yn ddrytach na’r hyn y baswn yn ei gyhoeddi fel arfer, ond dathliad o frechdan yw hon. Gyda brechdan wedi ei pharatoi yn barod yn costio £3.50 ar gyfartaledd, mae’r frechdan hon yn fargen ac yn dangos cymaint mwy o werth am arian y gallwch ei gael wrth fwynhau cynhwysion ffres). Be’ well!
Mae yna club sandwich newydd ar y bloc, sef fy mrechdan wreiddiol Clwb CoMedi! Mewn byd sydd yn fwy difrifol nag erioed, mae cael hwyl yn fwy o flaenoriaeth nag erioed!
Pa ffordd well o gael hwyl na chreu brechdan i’w chofio? Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi clywed am y belly laugh – wel dyma fo/hi rhwng dwy dafell!
Dylwn ddweud ar y pwynt yma nad brechdan bocs bwyd yw hon – ond yn hytrach, brechdan ar gyfer achlysur. Ond wedi dweud hynny, brechdan sydd dal yn rhesymol yw hi.
Mae llawer ohonom, dw i’n siŵr, ar ryw adeg wedi gorfod goddef y frechdan ham ddiflas, mewn bara digon diflas, y crwst yn chwerw a’r ham rhy denau wedi ei wasgu’n fflat mewn clingfilm. Does dim byd yn ddoniol am hyn!
Mae fy mrechdan ‘CoMedi’ yn dod â mwynhad yn ôl i’r frechdan fel ydan ni’n ei ’nabod hi.
Fel noson yng nghwmni digrifwr, ma’ hi’n gig sy’n ddigon i godi’r to! Yn punchy, annisgwyl, ffres a chwareus, hyd yn oed hefo elfen fel y nionyn sy’n dyfrio’r llygaid i’n hatgoffa o hiwmor mwy tywyll yn y byd. Mae teim yn y mayonnaise cartref sydd yn cynrychioli gallu unrhyw ddigrifwr gwerth ei halen i amseru ei sylwadau sydd yn gwbl allweddol i ddal ei gynulleidfa! Felly, beth am fynd ati i ddarganfod beth fyddwch chi ei angen i greu ‘Brechdan glwb coMedi’
Beth fydd ei angen?
- Torth fara ‘Split Tin’
- Hanner cwpan o olew olewydd
- Chwe ŵy
- Cyw iâr
- 4 darn garlleg wedi’i fygu (Comedi’r ‘Big Smoke’ wedi dod o Lundain i Gymru!)
- Ambell sbrigyn o teim (tua phum sbrigyn – gan amseru’n glyfar fel comedïwr)
- Nionyn mawr coch (trwyn mawr coch y clown – mae’n siŵr i ni gyd grïo yn blant!)
- Stwffin (swmp gig y digrifwr – dydi digrifwr yn ddim heb ei sylwedd)
- Caws coch (tair sleisen – i’r jôcs cawslyd ‘na!)
- Gercin a sweet sandwich pickle (Ffawd y digrifwr os yw ei gig yn wael)
- Mwstard punchy ar gyfer y ‘punchline’
Coginio
Y cyw iâr
Dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus ar gefn y paced.
Bydd angen ei goginio nes bod y sudd yn rhedeg yn gwbl glir. Bydd yr amser, yn amlwg, yn dibynnu ar faint y cyw iâr.
Stwffin (saets a nionyn, wedi’i wneud â llaw) – Dwy funud a hanner yn y meicrodon
‘Mayo’
Craciwch chwe melynwy i mewn i gymysgwr (blender)
Ychwanegwch un llwy fwrdd o ddŵr oer i mewn i’r cymysgwr
Un llwy de o fwstard i mewn i’r cymysgwr
Pedwar darn o arlleg wedi’i fygu wedi’u torri’n fân i’r cymysgwr
Pupur a halen fel y mynnwch
Ychwanegwch ryw bum sbrigyn o ddail teim i’r cymysgwr
Trowch bopeth yn y cymysgwr ar pulse (tua 30 eiliad)
Yn araf deg – tywalltwch hanner cwpan o olew olewydd i mewn tra bod y cyfan yn troi
Dyma un fersiwn o MayoNEIS Medi!
Y frechdan
Torrwch chwe thafell allan o’r dorth ‘split tin’ ffresh
Ffrïwch y bara ar badell gridl sych i gael yr effaith chargrilled neis yna.
Gwasgarwch fwstard ar bob tafell. Gwyliwch beidio defnyddio gormod – mae’n gallu bod yn gryf!
Torrwch sleisys o’r cyw iâr a’u rhoi am ben y mwstard melyn.
Torrwch nionyn coch a rhoi digon ar ben pob brechdan, wedyn rhoi sleisen o gaws coch ar ben pob un
Rhowch lwy dda o stwffin ar ben y caws coch
Cynheswch y tyrrau gyda closhe neu geuad wok drostyn nhw i feddalu’r cwbl.
Ychwanegwch lwy de o bicl melys ar ben pob brechdan, a digon o bicl gercin ar eu pennau cyn cau’r brechdanau drwy roi pren coctêl (cocktail stick) drwyddyn nhw fel eu bod yn sefyll yn falch a thalsyth. Wedi’r cyfan, mae’n hanfodol bod comedi ‘stand yp’ yn gwneud beth mae’n ei addo!
Yn olaf, gwnewch yr hyn rydych chi wedi bod yn ysu i’w wneud, a chymryd cegaid go dda o’r hwyl a’r pleser rydych chi’n ei haeddu ers talwm iawn!