Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyfle i ddathlu cig oen Cymreig fel rhan o Wythnos Caru Cig Oen ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r dathliad yn dechrau heddiw (dydd Gwener, Medi 1) ac yn para tan ddydd Iau nesaf (Medi 7).
Dyma’r nawfed tro i’r wythnos gael ei chynnal.
Yn ôl Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r wythnos yn “gyfle gwych i dynnu sylw at ansawdd, amlochredd a rhinweddau amgylcheddol cig oen Cymreig”.
“Dw i’n falch o gefnogi ein ffermwyr a’r ymgyrch hon sy’n arddangos pam mai cynnyrch Cymreig yw’r gorau ohonyn nhw i gyd,” meddai.
“Dw i’n dweud yn aml fod angen ffrind ar ffermio, a gallwn oll fod yn ffrind i ffermio Cymreig drwy brynu cig oen Cymreig a chynnyrch Cymreig yn fwy cyffredinol.”
Dyma ambell awgrym ar gyfer prydau sy’n cynnwys cig oen Cymreig.