Wrth gyhoeddi Hwyl Dros yr Aber, mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dweud y byddai trefnu’r holl ddigwyddiadau’n amhosib heb gefnogaeth pobol y dref.

Bydd Hwyl Dros yr Aber yn cael ei chynnal ym Mharc Coed Helen ddydd Sadwrn nesaf (Medi 9), a phwyllgor yr ŵyl fwyd sydd wedi trefnu’r digwyddiad.

Mae’r diwrnod wedi’i drefnu gan bobol Caernarfon, ac fe fydd yn gyfuniad o fwyd, diod a chynnyrch, a cherddoriaeth ar gyfer pobol Caernarfon.

Yn ôl un sydd ar y pwyllgor, bydd Hwyl Dros yr Aber yn gyfle i ddiolch i bobol leol am eu cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn.

“Byddai cynnal yr ŵyl fwyd ond cynnal yr holl weithgareddau rydym yn cynnal trwy’r flwyddyn yn amhosib heb gefnogaeth pobol leol” meddai Osian Owen wrth golwg360.

“Mae’r diwrnod yn gyfle i ffarwelio gyda’r haf ond hefyd yn gyfle i ni gyd-ddathlu’r hyn sydd gennym o fewn ein milltir sgwâr, a chyfle i ni fel pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon ddiolch i chi gyd hefyd am y gefnogaeth flynyddol ym Mis Mai.”

“Mi fyddai cynnal yr Ŵyl Fwyd, nid yn unig cynnal yr ŵyl fwyd ond cynnal yr holl weithgareddau rydym yn cynnal trwy’r flwyddyn yn amhosib heb gefnogaeth pobol leol.

“Bob blwyddyn ers ei sefydlu, maen nhw wedi bod yn dod yno i’n gweithgareddau.

“Mae yna bobol leol yn gwirfoddoli, yn stiwardio, yn barod i gyfrannu arian bob blwyddyn pan rydym yn gwneud apêl ariannol.

“Heb hynna, fyddai’r Ŵyl Fwyd erioed wedi profi’r llwyddiant mae hi’n profi rŵan.

“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig bod pethau yn cael eu trefnu gan bobol Caernarfon i bobol Caernarfon oherwydd mae’r Wŷl Fwyd ei hun, y prif un ym mis Mai, yn tynnu pobol o bob pen o’r wlad ac o bell.

“Roeddem yn meddwl efo’r digwyddiad yma y byddai’n ffordd neis o ddweud diolch wrth bobol Caernarfon ac i fod efo’n gilydd i ffarwelio â’r haf.”

Oedolion a phlant

Bydd digon yno i ddiddanu oedolion a phlant, a’r gobaith yw y bydd pobol yn gallu ymlacio trwy gydol y digwyddiad.

“Rydym yn trefnu diwrnod o weithgareddau yn reit hamddenol jest i dynnu at ein gilydd cyn i fisoedd hir y gaeaf ddod, lle bydd cerddoriaeth fyw, gweithgareddau plant a chestyll bownsio a’r math yna o beth, a bydd yna gelf i blant,” meddai Osian Owen wedyn.

“I oedolion, bydd yna gerddoriaeth fyw drwy’r dydd, a chyfle iddyn nhw ymlacio efo’u blanced picnic neu set gwersylla, mwynhau bwyd o’r stondinau bwyd lleol, a gwrando ar dalentau lleol yn perfformio.”

Bydd y diwrnod yn cychwyn am 12 o’r gloch, a bydd y stondinau bwyd yn cynnwys Barbeciw Mŵg, Big Dog Pizza a Beic Melys.

Bydd stondinau diodydd yn cynnwys Swig Smoothies, Coffi Dre, Bragdy Lleu, a seidr gan Antur Waunfawr.

Bydd modd mwynhau’r holl arlwy tan 7 o’r gloch.