Dyma frecwast, neu bryd o fwyd i’w gael unrhyw adeg o’r diwrnod. Pryd blasus, iach a llysieuol sy’n cael ei fwynhau yn Israel, rhannau eraill o’r Dwyrain Canol, a Gogledd Affrica. Cymysgedd o domatos poeth, nionod, garlleg, sbeisys (opsiynol) a wyau wedi’u potsio yw shakshuka. Ystyr shakshuka yn llythrennol yw cymysgedd. Bellach, mae sawl fersiwn fendigedig ohono ar gael, ond dyma’r fersiwn draddodiadol.

Felly, gyda’r gwyliau Haf ar gychwyn, beth am gymryd mwy o amser dros frecwast a rhoi cyfle i’r pryd syml a blasus yma? Mae’n un o’m ffefrynnau!


Beth ydw i ei angen?

1 nionyn

4 ewin garlleg

2 lwy de o Paprika

Ychydig o bowdr chili

2 dun o domatos

6 wy ffres organig

Llond llaw o coriander

Ychydig o Basil

Coginio?

Cynheswch olew olewydd mewn padell ffrio fawr ar wres canolig.

Ychwanegwch nionyn wedi’i ddeisio a’i goginio am bum munud, neu nes bod y nionyn yn dryloyw.

Ychwanegwch garlleg a sbeisys a choginiwch am funud ychwanegol.

Tywalltwch y tuniau tomatos a’r sudd i’r badell a thorri’r tomatos i lawr gan ddefnyddio llwy fawr.

Ychwanegwch halen a phupur a mudferwch y saws.

Defnyddiwch eich llwy fawr i wneud tyllau bach yn y saws, a chracio’r wyau i mewn i bob twll.

Gorchuddiwch y sosban a choginiwch am bump i wyth munud, neu nes bod yr wyau wedi’u gwneud i’ch plesio.

Addurnwch gyda Choriander a Basil.

Mwynhewch!