Mae Cig Oen Morfa Heli Gŵyr wedi ymuno â bwydydd fel Champagne, Parma Ham a Melton Mowbray Pork Pies, ar ôl ennill statws enw bwyd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Bydd enw Cig Oen Morfa Heli Gŵyr bellach yn cael ei warchod ymhellach gan statws Enw Tarddiad Gwarchodedig Ewrop (PDO), sy’n un o dri dynodiad arbennig Enw Bwyd Gwarchodedig Ewrop (PFN).
Ar Awst 11, 2021, Cig Oen Morfa Heli Gŵyr oedd y cynnyrch newydd cyntaf i dderbyn statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig o fewn cynllun GI newydd y Deyrnas Unedig, gafodd ei sefydlu ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Daeth penderfyniad wedyn y bydden nhw’n ceisio am warchodaeth Ewropeaidd, i gynorthwyo gwerthiant a chydnabyddiaeth ryngwladol ymhellach.
Dyma’r cynnyrch Dynodiad Daearyddol newydd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn gwarchodaeth Ewropeaidd.
Dim ond Cig Oen Morfa Heli Gŵyr mae modd ei werthu gyda logo PFN Ewropeaidd a UKGI, sy’n gwarantu y daw’r cynnyrch o ŵyn gafodd eu geni a’u magu ar arfordir Gogledd Gŵyr yng Nghymru.
Gall cynhyrchwyr cig oen ddangos bod nodweddion eu cig yn cael eu dylanwadu gan eu hardal gynhyrchu unigryw.
O dan gynllun enw bwyd gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd, mae rhai cynhyrchion bwyd a diod yn derbyn gwarchodaeth gyfreithiol ledled Ewrop rhag dynwarediad a chamddefnydd.
Gwnaed y cais am statws PDO i’r Comisiwn Ewropeaidd gan DEFRA ar ran Cig Oen Morfa Heli Gŵyr.
Mae cyflawni statws PDO Ewropeaidd yn weithdrefn helaeth a chymhleth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo Cig Oen Morfa Heli Gŵyr drwy’r broses.
Cig Oen Morfa Heli Gŵyr
Dan a Will Pritchard sy’n rhedeg fferm deuluol Cig Oen Morfa Heli Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr.
“Mae pawb yn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn falch iawn ein bod wedi derbyn statws GI yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar,” meddai Dan Pritchard.
“Mae’n dangos bod ein cynnyrch o wir darddiad ac o safon uchel.
“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym yn ei gynhyrchu ac mae’n wych ei fod yn cael ei gydnabod a’i ddathlu.”
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru, wedi eu llongyfarch ar eu “cyflawniad aruthrol”.
“Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth a bri rhyngwladol pellach i’r cynnyrch, ac hynny’n haeddianol iawn,” meddai.
“Bydd cwsmeriaid yn gwybod eu bod yn prynu cynnyrch Cymreig rhagorol, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r llwyddiant hwn.
“Mae gan Gymru rai o’r cynnyrch gorau yn y byd, ac mae’n wych gweld Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn cael ei restru ochr yn ochr â Champagne a Parma Ham.”