Roedd allforion bwyd a diod Cymru yn werth £797m yn 2022, y gwerth blynyddol mwyaf ar gofnod, yn ôl Gweinidog Materion Gwledig Cymru.

Gyda rhai o gynhyrchion bwyd a diod Cymru’n cael eu harddangos a’u gwerthu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon, mae Lesley Griffiths wedi datgelu bod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157m rhwng 2021 a 2022, sy’n gynnydd o 24.5%.

Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na’r Deyrnas Unedig gyfan o 21.6%.

Y categorïau allforio â’r gwerth mwyaf ar gyfer bwyd a diod Cymru yn 2022 oedd cig a chynnyrch cig ar £265m, gyda chynnydd o 42% ers 2021, a grawnfwyd a pharatoadau grawnfwyd, gyda chynnydd o 16% i £160m.

Cyrhaeddodd gwerth allforion y sector i’r Undeb Ewropeaidd £594m, sy’n gynnydd o £130m ers 2021.

Roedd allforion y diwydiant i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn werth £203m yn 2022, sy’n dwf o £176m yn 2021.

Ffrainc bellach yw’r gyrchfan gwerth uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, ar £150m.

Ymhlith y prif gyrchfannau eraill mae Gweriniaeth Iwerddon (£145m), Gwlad Belg (£78m), yr Iseldiroedd (£52m), a’r Almaen (£51m).

‘O nerth i nerth’

“Mae allforion bwyd a diod o Gymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan sicrhau fod pobol mewn llawer o wledydd dramor yn gallu mwynhau cynnyrch o ansawdd uchel o Gymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae sgiliau, brwdfrydedd ac angerdd y sector i ddarparu’r cynnyrch gorau posibl yn glir o’r canlyniadau heddiw.

“Rwy’n falch o allu gwneud y cyhoeddiad hwn yn Sioe Frenhinol Cymru sy’n rhoi cyfle i gwmnïau o bob cwr o Gymru arddangos eu bwyd a’u diod wych, ac rwy’n siŵr bod ymwelwyr o bell ac agos yn mwynhau.”

Prosiect Helix

Mae Lesley Griffiths hefyd wedi cyhoeddi cynllun newydd, y Cynllun Arloesi Strategol, i ddarparu ystod o wasanaethau cymorth busnes i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.

Yn rhan o hyn, bydd Prosiect Helix, sy’n cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Helix, gafodd ei lansio yn 2016, wedi rhoi hwb economaidd o £355m i’r diwydiant, wedi helpu i greu 683 o swyddi, ac wedi diogelu 3,647 yn rhagor o swyddi.

Mae tros 700 o fusnesau wedi cael cefnogaeth drwy’r cynllun ac mae bron i 2,100 o gynhyrchion bwyd a diod newydd wedi’u datblygu.

Bydd y prosiect bellach yn gallu cefnogi gweithgynhyrchwyr mwy yng Nghymru, ochr yn ochr â busnesau bach a chanolig sydd eisoes wedi elwa.

“Ers i’r cwmni cyswllt ymuno â’r busnes trwy Brosiect Helix mae ein trosiant wedi tyfu dros 65% ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y strwythurau technegol mwy cadarn hynny sydd ar waith,” meddai Mike Woods, Prif Weithredwr Just Love Food Company.

“Mae Prosiect Helix wedi helpu’r busnes i dyfu ac mae wedi helpu i osod sylfaen fydd yn helpu i barhau i dyfu.”

‘Sail i weledigaeth Llywodraeth Cymru’

“Bydd y Cynllun Arloesi Strategol yn sail i Weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod,” meddai Lesley Griffiths.

“Fel rhan o’r Prosiect hwn, bydd HELIX, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan helpu cwmnïau i fabwysiadu dull mwy effeithlon a strategol, yn parhau tan fis Mawrth 2005.

“Mae effaith gadarnhaol y prosiect yn glir i’w weld trwy’r hwb economaidd o £355 miliwn y mae wedi’i roi yn ogystal â nifer y swyddi newydd y mae wedi helpu i’w creu a’r miloedd y mae wedi’u diogelu.

“Mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth uwchsgilio gweithlu Cymru, a chefnogi busnesau i ddatblygu cynnyrch newydd.”