Arwydd sy’n darparu cyfarwyddiadau yng Nghaerdydd yw’r diweddaraf i ddal sylw am ei gam-gyfieithu.

Mae arwydd ffordd wedi anfon pobol i gyfeiriadau gwahanol yn dibynnu a ydyn nhw’n darllen y neges Gymraeg neu Saesneg.

Roedd yr arwydd ger Heol Clare ar Stryd Pendyris yn gysylltiedig â gwaith ffordd sy’n cael ei wneud ar y stryd.

Ar hyn o bryd, mae’n ffordd un-ffordd gyda phobol sy’n teithio tua’r dwyrain o Heol Clare yn gallu pasio fersiwn Saesneg o’r arwydd sy’n dweud: “Pendyris Street un ffordd o’ch blaen tua’r dwyrain yn unig.”

Fodd bynnag, mae’r fersiwn Gymraeg yn dweud, “Pendyris Street unffordd tua’r gorllewin yn unig”.

Dywed Cyngor Caerdydd fod yr adran berthnasol yn ymwybodol o’r camgymeriad ac y bydd yn cael ei gywiro cyn gynted â phosib.

Ond dydy cam-gyfieithu arwyddion ddim yn rhywbeth newydd.

O’r cannoedd o enghreifftiau, dyma ddetholiad golwg360 o’r rhai mwyaf gwirion.


  1. Y clasur o 2008

Yn 2008, roedd arwydd yn Abertawe yn cynnwys ymateb e-bost awtomatig yn dweud: “Nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd. Anfonwch unrhyw waith i’w gyfieithu.”


2. Busnesau ar gau yng Nghefn Coed y Cymer?

Mae’r un camgymeriad wedi’i wneud ar arwyddion droeon, ond roedd ychydig o stŵr pan ymddangosodd yr arwydd yng Nghefn Coed y Cymer yn dweud “Busnesau ar agor fel arfer” yn Saesneg, ond i’r gwrthwyneb yn y Gymraeg.


3. Siop siafins yn y Sioe Frenhinol

Llun: Delyth Wyn Davies / Grŵp ‘Arwyddion Cymraeg Gwael’ ar Facebook.

“Efallai fod mynedfa arbennig i bawb sydd wedi derbyn OBE ag ati,” awgrymodd un yng ngrŵp ‘Arwyddion Cymraeg Gwael’ ar Facebook wrth ymateb i’r arwydd yma yn Llanfair-ym-Muallt dros y penwythnos.


4. Trafferth cyfieithu rhifau yng Nghaerdydd

Llun: Miles Hermann / Grŵp ‘Arwyddion Cymraeg Gwael’ ar Facebook

Yn ôl yr arwydd yma, roedd y lôn yn y Rhath yng Nghaerdydd ar gau am dri diwrnod ychwanegol i siaradwyr Cymraeg.


5. Un arall i’r rhestr gan archfarchnad

Llun: Grŵp ‘Arwyddion Cymraeg Gwael’
Er gwaethaf ymdrechion archfarchnad Aldi yn Llandundo, fe wnaeth eu cyfieithiad o ‘No entry’ i ‘Dim cofnod’ gyrraedd y grŵp ‘Arwyddion Cymraeg Gwael’.

6. Canolfan beth…?

Oes angen dweud mwy…?

Llun: @CymraegDoctor ar Twitter