Mae gwasanaeth bws y Cardi Bach wedi dychwelyd i Geredigion.

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ar hyd rhan o arfordir y sir, ac yn gwasanaethu trigolion rhwng Ceinewydd ac Aberteifi.

Mae amserlen newydd wedi’i chyflwyno i’r Comisiynydd Traffig, ac unwaith y bydd hon wedi’i chofrestru, maen nhw’n rhagweld y bydd yn weithredol o Awst 1.

Hyd nes y bydd y gwasanaeth wedi’i gofrestru, bydd y gwasanaeth yn gweithredu yn unol â’r amserlen ar wefan Traveline, gydag amserlen dydd Gwener a dydd Sadwrn hefyd yn gweithredu ar ddydd Sul, dydd Mawrth a dydd Mercher.

Mae’n bosib dod o hyd i’r amserlenni ar wefan Traveline.

‘Gwasanaeth pwysig’

Yn ôl y Cynghorydd Keith Henson yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, mae’r gwasanaeth yn allweddol am sawl rheswm angenrheidiol, ac hefyd er mwyn pleser.

“Mae hwn yn wasanaeth pwysig i bobol leol ac ymwelwyr fel ei gilydd,” meddai.

“Yn ogystal â darparu mynediad i ran wych Ceredigion o Lwybr Arfordir Cymru, mae’r daith yn atyniad ynddo’i hun.

“Yn ogystal â theithiau ar hyd yr arfordir ei hun, mae’r Cardi Bach yn darparu cyfleoedd i deithio ymhellach gyda chysylltiadau â gwasanaethau eraill sy’n cynnwys gwasanaethau TrawsCymru.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd pobol yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, gan y bydd hynny yn cefnogi ymdrechion i’w gadw yn y tymor hwy.”

Caiff y Cardi Bach ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.