Mae disgwyl mwy o gefnogaeth i’r Gymraeg ym Mhowys, yn dilyn llwyddiant cynnig gerbron y Cyngor.

Yn ystod cyfarfod Cyngor Sir Powys ddydd Iau (Gorffennaf 21), cyflwynodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, gynnig pum pwynt er mwyn annog y sector twristiaeth i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.

Daw’r cynnig ar ôl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benderfynu fis Ebrill i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig ar y parc.

Aeth y Cynghorydd Elwyn Vaughan â’i gyd-gynghorwyr ar daith drwy’r chwedlau Cymreig, gan dynnu sylw at bwysigrwydd llawysgrifau o’r Oesoedd Canol hwyr a gafodd eu hysgrifennu yn Sir Frycheiniog yn casglu’r chwedlau ynghyd.

Fe wnaeth e bwysleisio’r cyswllt hefyd rhwng chwedlau Cymreig llawysgrifau’r Mabinogi a rhannau o hen deyrnas Powys a Sir Henffordd.

Fe ofynnodd e i’r Cyngor longyfarch Awdurdod y Parc Cenedlaethol am fabwysiadu’r enw Cymraeg Bannau Brycheiniog hefyd.

Eilio’r cynnig

Fe wnaeth y Cynghorydd Bryn Davies o Blaid Cymru eilio’r cynnig.

“Rydyn ni’n lwcus ym Mhowys fod llawer mwy o’n trefi wedi cadw eu helfennau unigryw megis Trefaldwyn, Trefyclo, Llanandras – y tristwch yw fod y profiadau hyn yn dod yn fwyfwy anodd i ddod o hyd iddyn nhw,” meddai.

“Os safwch chi mewn canolfan siopa yn Amwythig, Wrecsam, Nuneaton, Caerlŷr, Plymouth, Newcastle ac yn edrych o’ch cwmpas, fyddech chi ddim callach lle’r ydych chi.

“Yr un hen siopau sy’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Yr hyn sy’n cyfrannu i’n hunigrywiaeth yw fod ein diwylliant a’n hiaith wrth galon hyny.”

‘Llongyfarch y sentiment’

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol tros gynllunio, ei fod yn “llongyfarch y sentiment” y tu ôl i’r cynnig.

“Ond dw i yn cwestiynu mai enwau lleoedd Cymraeg yn unig sy’n adlewyrchu cyfoeth a hanes a diwylliant lle’r ydyn ni’n byw,” meddai.

Soniodd am lyfr am chwedlau Sir Faesyfed, gan dynnu sylw at y ffaith fod yr enw Saesneg Radnor yn golygu “banc coch” a bod sôn amdano am y tro cyntaf mewn siarter o’r wythfed ganrif gan y Brenin Offa o Fersia.”

“Mae llawer o enwau cyfoethog yn Sir Faesyfed nad ydyn nhw’n rhan o’r iaith Gymraeg, ac mae enwau Saesneg hirsefydledig yn haeddu cydnabyddiaeth.”

‘Haeddu ein cefnogaeth’

“Mae hyn yn haeddu ein cefnogaeth oherwydd mae’n dal y rhinwedd arbennig sy’n gwneud y sir hon mor ddeniadol i ymwelwyr, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny,” meddai’r Cynghorydd William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cafodd y cynnig ei gefnogi, gyda 56 o bleidleisiau o’i blaid a dim ond un yn ei erbyn.

 

Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog: Naws am le

Elwyn Vaughan

Mae cyfoeth o’r Gymraeg yn perthyn i Frycheiniog ac mae’r diffyg gweithredu gan gyrff cyhoeddus dros y ganrif ddiwethaf wedi cyfrannu at y dirywiad