Catrin Wager sydd wedi’i dewis i frwydro sedd newydd sbon Bangor Aberconwy yn enw Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Bydd etholaeth Arfon yn diflannu, a rhan ohoni’n cwympo o fewn yr etholaeth newydd.

Cafodd Catrin Wager ei henwebu i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru Arfon eleni, ar ôl i Hywel Williams gyhoeddi ei fwriad i gamu o’r neilltu yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

O ganlyniad i newid y ffiniau, bydd Cymru’n colli wyth Aelod Seneddol yn San Steffan, gyda’r ffigwr yn gostwng o 40 i 32.

Robin Millar, Aelod Seneddol presennol Aberconwy, fydd yn sefyll yn enw’r Ceidwadwyr.

‘Daearyddol anferth’

“Roedd Arfon ymhlith etholaethau lleiaf Prydain, ac i’r gwrthwyneb yn llwyr, mi fydd etholaeth newydd Bangor Aberconwy yn ddaearyddol anferth!” meddai wrth golwg360 ddechrau’r mis yma.

“Mae hi’n ymestyn o Fangor a Dyffryn Ogwen ar draws i Landudno ac i lawr at ffiniau Dinbych, Rhuthun a Corwen.

“Mae’n ardal eang, ac mae yna gymunedau tra gwahanol eu naws o fewn ei ffiniau.

“Rhaid hefyd cofio y bydd yr etholaeth newydd yn pontio tair sir.

“Daw’r amrywiaeth yma a heriau i unrhyw wleidydd wrth gwrs, ond rwy’n credu fod fy mhrofiad gwleidyddol a fy nghefndir fel cyn-aelod cabinet yng Ngwynedd yn mynd i fod o help mawr mewn trafodaethau gyda’r awdurdodau lleol.

“Un peth rwy’n sicr fydd yn gyson ar draws yr etholaeth ydy fod yna bobol sydd wedi dioddef oherwydd y llywodraeth bresennol, a bod ’na bobl sydd eisiau, a gwir angen gweld newid.

“Rwy’n meddwl fod pobol wir wedi cael digon o ddiffyg hygrededd a phenderfyniadau trychinebus a chreulon y Torïaid, ac mae’r Blaid Lafur wedi bod yn llwfr yn ymwrthod â’r penderfyniadau hyn.

“Mae’r ddwy brif blaid i weld mor frwd ar danseilio ei gilydd, eu bod wedi anghofio am bobol, ac mae trigolion Cymru yn isel iawn ar eu blaenoriaethau nhw.

“Yn wahanol i’r ddwy brif blaid, ym Mhlaid Cymru rydyn ni yno i gynrychioli pobol Cymru yn unig.

“Does gynnon ni ddim uchelgais i lywodraethu yn San Steffan, a’n nod yw llysgenhadu dros y bobol sydd wedi ein hethol.”

 

“Mae’r angen am leisiau egwyddorol, cadarn fydd yn ymladd dros Gymru, yn gryfach nag erioed”

Mae Catrin Wager wedi cyflwyno ei henw ar gyfer bod yn ymgeisydd Seneddol dros Fangor Aberconwy