Mae’r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg ddigidol yn y gymdeithas ac mewn gwasanaethau cyhoeddus yn creu rhwystrau i bobol hŷn nad ydyn nhw ar-lein, wrth iddyn nhw geisio cael gafael ar wasanaethau a gwybodaeth.

Mae materion sy’n ymwneud ag allgáu digidol yn cael eu codi’n aml gyda Chomisiynydd Pobol Hŷn Cymru, ac mae hi’n awyddus i ddysgu mwy am y mathau o broblemau a heriau mae pobol yn eu hwynebu.

Mae’r materion yn cynnwys a yw hawliau pobol i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau sydd heb fod yn ddigidol yn cael eu cynnal.

Mae nifer o bobol hŷn yn dweud wrth y Comisiynydd nad ydyn nhw wedi gallu cymryd rhan mewn apwyntiadau ar-lein neu alwadau fideo gyda’u meddyg teulu, ac nad ydyn nhw wedi gallu trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb.

Mae eraill yn sôn am yr anawsterau sy’n eu hwynebu wrth orfod defnyddio ap i dalu am wasanaethau fel parcio’r car, sydd mewn rhai achosion wedi golygu nad ydyn nhw’n gallu mynd allan.

Mae’r Comisiynydd yn awyddus i glywed gan bobol sydd wedi cael trafferth gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw gan nad ydyn nhw ar-lein, neu o ganlyniad i anawsterau wrth ddefnyddio technoleg ddigidol.

Gall y rhain gynnwys:

  • trefnu apwyntiadau ar-lein, gan gynnwys apwyntiadau meddygol
  • gwasanaethau iechyd
  • gwybodaeth a chyngor
  • lleisio barn
  • taliadau

Bydd y Comisiynydd Pobol Hŷn yn defnyddio’r wybodaeth o’r astudiaeth yma i alw am gamau gan gyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â’r materion hyn, a gwneud yn siŵr bod pobol yn cael y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.

Bydd cymorth unigol ar gael hefyd.

“Byddaf yn defnyddio’r hyn mae pobol hŷn yn ei ddweud wrthyf i nodi’r materion penodol maen nhw’n yn eu hwynebu, a’r effaith mae hyn yn ei chael ar eu bywydau,” meddai Heléna Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, wrth golwg360.

“Byddaf wedyn yn defnyddio’r dystiolaeth hon i alw am gamau gan gyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â’r materion hyn a sicrhau bod pobol hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn gallu cael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

“Rwyf hefyd yn darparu cymorth unigol i’r bobol hŷn sy’n cysylltu â nhw, os oes ei angen arnynt, drwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth.”

Cael technoleg yn fwy anodd

Mae amryw o resymau pam fod pobol hŷn weithiau’n cael technoleg yn anodd.

“Mae rhai pobol hŷn wedi cael llai o gyfleoedd i ddefnyddio technoleg yn ystod eu bywydau o ddydd i ddydd, er enghraiift trwy’r gwaith, neu heb gael cyfleoedd i ddysgu sgiliau digidol,” meddai’r Comisiynydd wedyn.

“Gall rhai pobol hefyd fod â diffyg hyder i ddefnyddio technoleg newydd, neu fod â phryderon am ddiogelwch, all hefyd eu hatal rhag mynd ar-lein.”

Mae’n hollbwysig sicrhau bod opsiynau heblaw am rai digidol gan gyrff cyhoeddus a hyfforddiant i bobol allu dysgu sgiliau digidol.

“Mae’n hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn cydnabod nad yw nifer sylweddol o bobol yng Nghymru ar-lein – nid yn unig yn bobol hŷn, ond hefyd yn bobol ag anableddau neu’r rhai ar incwm isel – ac yn sicrhau bod gwybodaeth a gwasanaethau yn parhau i fod ar gael mewn rhyw ffurf drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol,” meddai.

“Yn aml gall hyn fod yn syml iawn, megis cynnig llinell ffôn y gall pobol gysylltu â hi am gymorth, neu ddarparu copïau papur o ffurflenni neu ddogfennau.

“Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni hefyd weld gwaith pellach i alluogi pobol hŷn i ddysgu sgiliau digidol.

“Mae rhai mentrau da iawn eisoes yn cael eu darparu yng Nghymru, ond mae’r cyfleoedd hyn yn bwysicach nag erioed gan fod y symudiad tuag at ddigidol wedi cyflymu llawer ers y pandemig, ac mae rhai pobol hŷn mewn perygl o gael eu hallgáu.”

Cysylltu

Mae modd cysylltu â’r Comisiynydd drwy ffonio 03422 640 670, neu e-bostio gofyn@comisiynyddph.cymru

Os oes angen cymorth arnoch chi gydag unrhyw un o’r materion rydych chi wedi’u profi, mae modd cysylltu â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd.