Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal ocsiwn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r mudiad.

Bydd yr ocsiwn cael ei gynnal am 5.30 ddydd Iau, Awst 10 ym Mhabell y Cymdeithasau, gyda Dewi Pws a Danny Grehan.

Ar ôl blwyddyn o ddathlu’r pen-blwydd mawr, mae’r Gymdeithas wedi mynd ati i gasglu amryw o eitemau i’w gwerthu – o ddarnau celf a cherddi mewn llawysgrifen – gyda’r rhan fwyaf o’r eitemau â chysylltiad agos â gweithgarwch y Gymdeithas dros y 60 mlynedd diwethaf.

Mae’r holl eitemau i’w gweld ar wefan y Gymdeithas.

Yr eitemau

Bydd darn celf gwreiddiol ‘Nid yw Cymru ar Werth’ gan Iwan Bala ymhlith yr eitemau, a £750 yw pris cadw hwnnw.

632mm (lled) a 645mm (uchder) yw maint y gwaith.

Bydd llun gwreiddiol gan Angharad Tomos wrth i Rwdlan a Rala Rwdins ddathlu’r 60 hefyd, a’r gerdd ‘Y Llif o dan Bont Trefechan’ gan y cyn-gadeirydd Hywel Griffiths yn ei lawysgrifen o’r llyfr Rhaid i Bopeth Newid, fydd hefyd ar werth gyda llofnodion pob un o’r cyfranwyr.

Bydd llawysgrif ‘Yma o Hyd’, geiriau’r gân eiconig gan Dafydd Iwan, yn ei lawysgrifen hefyd ymhlith yr eitemau, ynghyd â phrint ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’ gan Futile Gestures wedi fframio (522mm x 782mm).

Bydd eitemau eraill yn cynnwys:

  • set o fathodynnau Tafod
  • llawysgrif o’r gân ‘Che Guevara’ gan Steve Eaves (i Branwen Niclas ac Alun Llwyd)
  • poster A2 Gig Hanner Cant wedi’i lofnodi gan y perfformwyr
  • darn celf gan Mary Lloyd Jones o’r arfordir ger Llangrannog
  • pecyn o lyfrau Y Lolfa (gwerth tua £90)
  • modrwy Tafod, yr olaf o’i fath gan Rose Wood Jewellery o Aberteifi
  • arwydd metel fel atgof o’r ymgyrchoedd paentio arwyddion (30cm x 20cm)
  • darn Tafodau gan Ann Catrin
  • dwy o ganeuon Delwyn Siôn, ‘Bore Da Gymry’ ac ‘Un Seren’ yn ei lawysgrifen
  • darn ‘Ymgyrchwyr’ gan Ruth Jên wedi’i fframio (225mm x 277mm)
  • cyff-lincs Tafod, yr unig bâr sy’n bodoli
  • cerdd gan Myrddin ap Dafydd yn ei lawysgrifen

Ac mae’n bosib y bydd ambell syrpreis gan Dewi Pws ar ddiwedd yr ocsiwn hefyd.

Cynnig am yr eitemau

Mae croeso i bobol anfon cynigion ymlaen llaw, drwy e-bostio post@cymdeithas.cymru cyn 5 o’r gloch ddydd Mercher, Awst 9.

Mae modd cyflwyno cynnig wyneb yn wyneb ar stondin y Gymdeithas (rhif 501-502) cyn 4 o’r gloch ar y diwrnod.

Dylai unrhyw un sydd eisiau cynnig am eitem gofnodi eu manylion cyswllt, enw’r eitem a’u cynnig ariannol.