Mae pryderon wedi’u codi am y niferoedd cynyddol o dwristiaid sy’n heidio i draeth Niwbwrch er mwyn cyrraedd Ynys Llanddwyn ers i fideo TikTok fynd yn feiral fis diwethaf.
Mae disgwyl i’r ynys a’r traeth Baner Las gael cryn sylw eto yn sgil y gyfres House of the Dragon ar HBO sy’n cael ei ffilmio yno ar hyn o bryd, ac eitem yn y Daily Mail yn ddiweddar oedd yn canu clodydd un o “hoff draethau Prydain”.
Ar yr ynys mae adfeilion eglwys Santes Dwynwen, croes Geltaidd, goleudy a golygfeydd hyfryd dros Eryri a Phen Llŷn.
Mae’r fideo TikTok wedi’i gwylio 1.4m o weithiau, wrth i’r sawl oedd wedi ei phostio dynnu sylw at y cysylltiad rhwng yr ynys a Santes Dwynwen, santes y cariadon yng Nghymru.
Fe ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfarfod Cyngor Ynys Môn yn ddiweddar fod yr holl sylw’n arwain at broblemau parcio yn Niwbwrch, wrth i bobol geisio mynediad i’r ynys, sy’n rhan o’r tir mawr, oddi ar y traeth.
‘Dan ei sang’
Yn ystod nifer o gyfarfodydd Cyngor Ynys Môn yn ddiweddar, mae pryderon wedi’u codi ynghylch mwy o draffig wrth i gerbydau deithio trwy Niwbwrch i gyrraedd y cyrchfan sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid.
Ar adegau, mae’r pentref “dan ei sang yn llwyr”, yn ôl cynghorwyr.
Yn ystod cyfarfod ym mis Mehefin, dywedodd John Ifan Jones, Cynghorydd Bro Aberffraw, fod “traeth Llanddwyn wedi dod mor boblogaidd rŵan fel bod y pentref wedi torri”.
Wrth siarad yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, fe ddisgrifiodd yr anawsterau mae pobol leol yn eu hwynebu wrth “gael car trwy’r pentref” ar adegau prysur.
Tynnodd sylw hefyd at bryderon ynghylch mynediad ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys, gan ddisgrifio sut mae mesurau Covid, oedd wedi parhau ar ôl y pandemig, wedi gweld ffordd yn cael ei chau.
Gofynnodd wedyn pa gamau y gellid eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r materion yn Niwbwrch.
Dywedodd Christian Branch, pennaeth rheoleiddio a datblygu economaidd y Cyngor, nad yw’n credu bod y problemau yn Niwbwrch yn “unigryw” i’r pentref hwnnw, gan ddweud bod pentrefi eraill hefyd yn cael eu heffeithio gan dwristiaeth ar yr ynys.
Dywedodd fod “angen cynllun tymor hir i fynd i’r afael â’r math yma o bryderon”.
Cododd y materion yn Niwbwrch unwaith eto pan gyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees adroddiad gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ym mis Gorffennaf.
Cynllun Rheoli Cyrchfannau
Fe gafodd ei grybwyll eto yn ystod trafodaeth am Gynllun Rheoli Cyrchfannau’r Cyngor ar gyfer 2023-28, oedd yn disgrifio strategaeth dwristiaeth y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.
Ymhlith y pynciau i fynd i’r afael â nhw drwy’r cynllun mae effaith twristiaeth ar fywydau’r bobol.
Nododd y Cynllun fod “twf parhaus mewn niferoedd o ymwelwyr yn gallu creu pwysau di-eisiau i’r gymuned leol”.
“All twristiaeth ddim cael ei gadael i dyfu heb ei gwirio,” meddai.
“Rhaid ei rheoli mewn ffordd gynaliadwy.”
Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith yn unfrydol ar Orffennaf 18 y bydden nhw’n cymeradwyo’r ddogfen newydd.
“Un o’r materion gafodd ei godi gan aelodau’r pwyllgor oedd effaith bod dan ei sang, sydd weithiau’n digwydd yn Niwbwrch,” meddai’r Cynghorydd Dylan Rees.
“Mae hyn oherwydd llif yr ymwelwyr sy’n dod i draeth Llanddwyn.
“Mae’r Cynghorydd John Ifan Jones, un o gynghorwyr Bro Aberffraw, yn gofidio’n arbennig, ac mae wedi tynnu sylw at nifer o faterion yn ymwneud â thraffig a thagfeydd sydd wedi effeithio ar Niwbwrch.”
Ychwanegodd un o’r trigolion lleol, oedd yn dymuno aros yn ddienw, fod “y ffordd o amgylch fan’ma dan ei sang yn llwyr, a’r traffig yn ddrwg iawn ar adegau”.
“Gall fod yn hunllef,” meddai.
“Mae’n effeithio ar y groesffordd yng nghanol y pentref, ac mae’r traffig yn adeiladu.
“Mae’n arbennig o ddrwg yn yr haf, ond medrwch chi warantu os oes yna ddiwrnod heuluog unrhyw adeg o’r flwyddyn, gall fynd yn ddrwg.
“Rwy’n meddwl bod pobol o amgylch fan’ma wedi diflasu efo fo.”