Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Ann Clwyd, “ymgyrchydd eofn” a “menyw ddoeth”, yn dilyn ei marwolaeth nos Wener (Gorffennaf 21).

Bu’n cynrychioli etholaeth Cwm Cynon fel Aelod Seneddol am 35 o flynyddoedd, a hi oedd yr aelod benywaidd hynaf yn Nhŷ’r Cyffredin cyn ymddeol yn 2019.

Mae hi’n cael ei chofio fel ymgyrchydd brwd dros hawliau dynol, model i ferched ym myd gwleidyddol, ac fel newyddiadurwr aruthrol.

Wrth roi teyrnged iddi, disgrifiodd cyn-ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, hi fel “person hawddgar ac ymroddedig iawn”, oedd yn boblogaidd ymysg gwleidyddion o bob plaid yn San Steffan.

Wedi’i magu yn Sir y Fflint, bu Ann Clwyd yn gweithio fel athrawes dan hyfforddiant cyn hyfforddi fel newyddiadurwr.

Cafodd ei hethol i San Steffan mewn isetholiad ym mis Mai 1984, a hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli etholaeth yng nghymoedd y de.

Yn ymgyrchydd amlwg cyn hynny, daeth Ron Davies – gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Gaerffili yn 1983 – i adnabod Ann Clwyd tua diwedd y 1970au.

“Des i ar ei thraws hi i ddechrau fel ymgyrchydd, ac roeddwn i wedi’i chyfarfod hi’n gymdeithasol ac wastad wedi dod ymlaen â hi – roedd hi’n berson hawddgar ac ymroddedig iawn,” meddai Ron Davies wrth golwg360.

Dechreuadau

Roedd Ann Clwyd yn gweithio’n agos gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr, ac erbyn dechrau’r 1980au roedd yr Undeb yn ei noddi fel ymgeisydd.

Ond cymerodd dri chynnig iddi gael ei dewis i fod yn ymgeisydd Llafur yn y Cymoedd.

“Ar y pryd, roedd Ogwr, fel yr oedd ar y pryd, yn wag ar ôl ymddeoliad Walter Padley.

“Yn amlwg, roedd yn etholaeth lle’r oedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn gryf iawn, ac Ann oedd yr hoff ymgeisydd.

“Roedd ychydig o helynt gan ei bod hi wedi cael ei chadw oddi ar y rhestr fer, ac roedd cwynion nid yn unig oherwydd mai hi oedd ymgeisydd Undeb y Glowyr, ond roedd hi’n un o’r ychydig ymgeiswyr benywaidd oedd yn trio cael eu hethol i’r Senedd dan y Blaid Lafur.”

Digwyddodd yr un fath gyda sedd Caerffili, cyn iddi gael ei dewis fel yr ymgeisydd Llafur yng Nghwm Cynon, meddai.

“Yn enwedig gan ei bod hi wedi cael ei gadael allan yn barod ar gyfer etholaeth Ogwr, roedd yna ychydig o deimlad bod hon yn Blaid Lafur gwrth-fenywod, misogynistaidd.

“Roedd hi’n ymgyrch gref, nid yn unig dros ei hun a’i hawl i gael ei hystyried fel ymgeisydd, ond dros fenywod yn gyffredinol.”

‘Parch am ei hymgyrchoedd’

Wedi iddi gael ei hethol, roedd Ann Clwyd cael ei hadnabod fel “gwleidydd radical, cymunedol gyda chysylltiadau cryf gyda’r undebau llafur” ac fel “ymgyrchydd cryf dros ymgeiswyr gwleidyddol benywaidd”, meddai Ron Davies wedyn.

“Roedd pobol yn ei hoffi ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac roedd hi’n cael ei pharchu am yr ymgyrchoedd roedd hi’n eu hymladd, yn enwedig dros ei hetholaeth ei hun yng Nghwm Cynon.”

Yn 1994, cynhaliodd hi brotest yng Nglofa’r Tŵr ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf, yn erbyn penderfyniad British Coal i gau’r pwll.

Cafodd y glowyr sêl bendith i ailagor y pwll glo’r flwyddyn ganlynol, ar ôl cronni eu harian diswyddo i’w gymryd drosodd.

“Dw i’n meddwl mai hi oedd un o’r menywod cyntaf i fynd dan ddaear, roedd yna draddodiad cryf nad oedd menywod yn cael mynd dan ddaear mewn pwll glo gweithiol ond aeth lawr a dod yn ôl gyda’i hwyneb yn llawn llwch glo,” eglura Ron Davies.

“Mewn ffordd, roedd hynny’n typical o Ann.

“Roedd hi’n gallu gwneud datganiadau gwleidyddol cryf ond mewn ffordd hawdd iawn oedd yn dderbyniol i bobol.”

Ymgyrchu dros hawliau dynol

Roedd Ann Clwyd hefyd yn ymgyrchydd dros hawliau’r Cwrdiaid, yn enwedig pan oedden nhw’n cael eu herlid gan Saddam Hussein yn y 1980au.

Bryd hynny, roedd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cefnogi Saddam Hussein yn ystod y rhyfel yn erbyn Iran, a’r Blaid Lafur yn cefnogi’r Llywodraeth hefyd.

“Ond roedd Ann a finnau ac eraill yn dweud nad oedd hi’n bosib cyfiawnhau ei weithredoedd yn erbyn y Cwrdiaid, yn defnyddio nwyon, bomiau a phethau erchyll, a bod Prydain ar y pryd yn rhoi arfau iddo.

“Roedd Ann yn gwbl glir, roedd e’n fater hawliau dynol cyn belled â bod hi yn y cwestiwn, a doedd hi ddim am gael ei gorfodi i beidio dweud ei dweud er mwyn cyfleustra’r llywodraeth.”

‘Codi proffil Cwm Cynon’

Gweithiodd Ann Clwyd fel llefarydd addysg a hawliau menywod yr wrthblaid am gyfnod yn 1987, ond cafodd ei diswyddo yn 1988 am wrthryfela yn erbyn Chwip y blaid ar fater wariant pellach ar arfau niwclear.

Dychwelodd fel llefarydd datblygiad tramor yr wrthblaid rhwng 1989 a 1992, ac yna fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru yn 1992, a threftadaeth genedlaethol rhwng 1992 a 1993.

Hi oedd llysgennad arbennig Tony Blair yn Irac, a bu’n ymgyrchu dros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Owen Roberts, yn 2012.

“Yn fwy na dim, roedd hi’n gallu codi proffil Cwm Cynon, doedd hi ddim yn methu’r un cyfle i eirioli achos Cwm Cynon, y diwydiant glo, diweithdra, menywod, pobol ifanc – pa bynnag fater cymdeithasol oedd eisiau ei gydnabod yng Nghwm Cynon, roedd Ann yno,” meddai Ron Davies.

“Roedd hi’n wleidydd da, ond roedd hi’n gydweithiwr a chwmni da hefyd.

“Mae’n ddiwrnod trist, ond fe wnaeth hi fyw bywyd llawn ac ymroddedig iawn a llwyddo mewn sawl maes, gan gynnwys mynd ag achos menywod, hawliau sifil a democratiaeth yn ei flaen, a sefyll i fyny dros ei hetholaeth fel pencampwr gweithwyr Cwm Cynon.”

‘Menyw ddoeth’

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd Carolyn Harris, yr Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe, y bydd hiraeth am “fenyw ddoeth” oedd wastad yn barod i rannu ei phrofiadau a chyngor da.

“Roeddwn i’n adnabod Ann Clwyd ymhell cyn i fi ddod yn Aelod Seneddol, ac roedd ei phersonoliaeth a’i hanes yn ei rhagflaenu,” meddai Carolyn Harris wrth golwg360.

“Dw i wastad wedi bod yn llawn parch tuag at Ann, ac mae ei marwolaeth yn drist tu hwnt.

“Dw i’n gwybod ei bod hi wedi bod yn wael dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond reit at y diwrnod olaf roedd hi wrthi’n trydar ac yn tecstio pobol gyda geiriau doeth o gyngor.

“Daeth Ann yn ffrind pan ddes i’n Aelod Seneddol oherwydd ei bod hi’n rhywun roeddech chi’n gallu siarad â hi’n hawdd, roedd hi wastad yn barod i rannu ei phrofiadau a rhannu cyngor da.

“Bydd hiraeth garw amdani, nid yn unig gan Grŵp Seneddol Llafur Cymru, ond gan Gymru ac o fewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol am fod yn fenyw ddoeth oedd wastad yn hapus i sicrhau bod eraill yn rhannu ei doethineb.”