***RHYBUDD CYNNWYS: Gallai cynnwys yr erthygl hon beri pryder***

Mae cwest i farwolaeth dynes o Gymru, fu farw mewn uned iechyd meddwl yn Lloegr, wedi canfod methiannau yn y gofal gafodd hi yno.

Bu farw Ayla Haines o Lansteffan yn Sir Gaerfyrddin yn yr uned yn Llundain ar ôl cael ei throsglwyddo yno am nad oedd triniaeth briodol ar gael iddi yng Nghymru.

Dywed ei theulu ei bod hi’n “fywiog, tosturiol, hael, empathetig a ffyddlon”, ac yn “anturus a chanddi synnwyr hwyl arbennig”.

“Byddai Ayla bob amser yn rhoi eraill uwchlaw hi ei hun, a phob amser yn sefyll i fyny dros y rhai dan anfantais”.

Roedd hi’n byw â sawl cyflwr, gan gynnwys Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), anorecsia nerfosa ac anhwylder personoliaeth ansefydlog EUPD.

Cefndir

Yn ugain oed, cafodd Ayla Haines ei chadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar ôl hunan-niweidio, a hynny er ei diogelwch ei hun.

Ar ôl blynyddoedd o gael ei chosbi, gan gynnwys ataliaeth gorfforol a chyfnodau mewn unedau iechyd meddwl amrywiol, daeth ymarferwyr meddygol i’r casgliad mai ei chadw mewn uned yn Ysbyty St Bernard yn Llundain fyddai’r opsiwn gorau iddi.

Doedd dim cyfleusterau tebyg yn agos i’w chartref yng Nghaerfyrddin, oedd yn golygu bod yn rhaid iddi dreulio cyfnodau hir ymhell oddi wrth ei theulu a’i ffrindiau.

Ar ôl ymateb yn dda i driniaeth gychwynnol, bu’n rhaid ei chludo i uned gofal dwys ar ôl iddi niweidio’i hun.

Wrth ddychwelyd i’r uned, cafodd ei chadw ar wahân ac roedd cyfyngiadau ar yr eiddo a’r dillad roedd modd iddi eu cael gyda hi.

Wrth dderbyn triniaeth ar Ward Parkland, bu farw ar Ebrill 20, 2022 ar ôl crogi ei hun.

Cwest a methiannau

Daeth y rheithgor yn ei chwest i’r casgliad ar Orffennaf 15 eleni fod “tystiolaeth annigonol” ei bod hi’n bwriadu lladd ei hun, er eu bod yn cyfaddef iddi gymryd ei bywyd ei hun yn sgil ei gweithred.

Ond roedd methiannau wrth gadw cofnodion, ac wrth ddilyn protocol ar ôl colli arsylwadau, trosglwyddo o aelodau staff i’w gilydd, a phwysau sylweddol ar staff.

Roedd y cyfan wedi cyfrannu at farwolaeth Ayla Haines, ac mae ei theulu’n dweud bod y rhai oedd i fod i ofalu amdani wedi methu gwneud hynny.

Yn ôl cofnodion, cafodd ei thywys yn ôl i’w hystafell gan gynorthwyydd gofal iechyd am 7.57 ar y noson y bu farw, a chaeodd hi’r drws ddylai fod wedi bod ar agor yn barhaus.

Doedd neb wedi mynd ati i’w harsylwi am 7.30yh nac am 7.45yh, er y dylen nhw fod wedi cadw llygad arni bob chwarter awr.

Saith eiliad roedd staff gyda hi dro arall am 8 o’r gloch, ac unarddeg eiliad am 8.43yh. Dyna’r arsylwad olaf.

Daeth hi i’r amlwg am 9.23yh fod yna broblem, a doedd hi ddim yn ymateb ac roedd hi’n oer ac yn las erbyn 9.24yh. Dywedwyd bryd hynny ei bod hi “wedi mynd”.

Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain alwad ffôn am 9.29yh, a chyrhaeddodd ymatebwr cyntaf am 9.35yh ond doedden nhw ddim gydag Ayla Haines tan 9.45yh oherwydd diffyg cyfarwyddiadau clir.

Pryderon

Roedd Jane Haines, mam Ayla, yn poeni bod ei merch yn awtistig – rhywbeth oedd wedi cael ei awgrymu yn yr ysgol.

Er i’r ddwy wneud ceisiadau am asesiad ffurfiol, cafodd yr holl geisiadau eu gwrthod, ond pe baen nhw wedi cael eu cynnal, mae’r teulu’n teimlo y gallai ei thriniaeth fod wedi bod “yn wahanol iawn”.

Dywed Jane Haines ei bod hi’n “falch” fod methiannau’r ysbyty wedi cael eu cydnabod, a’i bod hi’n “gobeithio” y bydd mesurau ar waith erbyn hyn i sicrhau nad oes rhaid i’r un teulu arall golli anwyliaid.

Yn ogystal, mae hi wedi beirniadu “diffyg darpariaeth gofal iechyd meddwl yng Nghymru sy’n gorfodi cleifion fel Ayla i gael ei hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’u cartrefi a’u hanwyliaid, all ond fod yn andwyol i’w hiechyd ac unrhyw obaith o wellhad”.

“Yn y pen draw, collodd dynes ifanc, Ayla, ei bywyd,” meddai datganiad.

“Hoffai ei mam i Ayla gael ei chofio am ei natur garedig, dosturiol a chariadus, ei gonestrwydd a’i synnwyr o hwyl.”