Mae economegydd blaenllaw yn rhybuddio na ddylid disgwyl rhagor o doriadau i gyfraddau llog eto eleni.
Fore heddiw (dydd Iau, Awst 1), cyhoeddodd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig doriad o 0.25% – i lawr o 5.25% i 5%.
Dyma’r toriad cyntaf ers dechrau’r pandemig Covid-19 fis Mawrth 2020.
Y disgwyl oedd y byddai toriad yn cael ei wneud naill ai fis Awst neu fis Medi eleni.
Mae cyfraddau llog yn dylanwadu ar gost benthyg, sy’n cael ei gosod gan fanciau a benthycwyr ar gyfer morgeisi, cardiau credyd a’u tebyg.
Mae Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, wedi rhybuddio na ddylid torri cyfraddau llog yn rhy gyflym na chan ormod ar yr un pryd.
Mae hefyd yn dweud bod rhaid sicrhau bod chwyddiant yn aros yn isel.
Cael a chael
“Roedd hon yn bleidlais agos, gyda dim ond pump o’r pwyllgor naw aelod yn pleidleisio i dorri cyfraddau llog am y tro cyntaf ers mwy na phedair blynedd,” meddai Dr Edward Jones, sy’n Uwch Ddarlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor.
“Ar y cyfan, mae pwysau chwyddiant wedi lleddfu yn ystod y mis diwethaf, a rhoddodd hyn yr hyder i’r pum aelod bleidleisio dros doriad.
“Fodd bynnag, mae chwyddiant yn y sector gwasanaethau yn parhau i fod yn uchel, a bydd y codiadau cyflog gafodd eu cyhoeddi gan Rachel Reeves, Canghellor y Deyrnas Unedig, yn debygol o fwydo i mewn i chwyddiant.
“Felly, ni ddylem ddisgwyl llawer mwy o doriadau eleni.”