Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru heno (nos Iau, Gorffennaf 21) mai Ffion Dafis sydd wedi cipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, gyda’i nofel Mori (Y Lolfa), sydd wedi’i galw’n “gampwaith” gan feirniaid y wobr.
Daeth cadarnhad hefyd mai casgliad Y Pump sydd wedi dod i’r brig yng Ngwobr Barn y Bobl golwg360 eleni, yn dilyn pleidlais agored gan ddarllenwyr Cymru.
Mae’r deg awdur, Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat), oll yn rhannu’r wobr a’r clod.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o’r rhaglen Stiwdio.
Yn cadw cwmni i’r cyflwynydd Nia Roberts roedd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru, Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360, ac enillwyr categorïau Gwobr Llyfr y Flwyddyn.
‘Stori gyfoes, bwerus’
Stori gyfoes, bwerus yw Mori gan Ffion Dafis.
Hon yw nofel gyntaf yr actores a chyflwynydd, yn dilyn llwyddiant ei chyfrol gyntaf Syllu ar Walia’ (Y Lolfa) yn 2017.
Mae’r nofel yn dilyn Morfudd a’i hobsesiwn gyda merch drydanol sy’n anfon cais i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ei pherthynas â hi yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol a throedio ar daith i fannau tywyll iawn er mwyn darganfod a derbyn ei hun.
O Fangor y daw Ffion Dafis yn wreiddiol, ac mae’n enw cyfarwydd ym myd y celfyddydau yng Nghymru.
Mae’n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C.
Bu’n actio rhan yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017.
‘Wedi llwyr wirioni’
“Dwi wedi llwyr wirioni,” meddai Ffion Dafis.
“Nid cymeriad hawdd ei hoffi ydi Mori ar adegau, a dwi mor falch fod y panel wedi gweld ei phrydferthwch hi fel y dois i i’w werthfawrogi yn y diwedd, a’i bod hi wedi cyffwrdd.
“Dydi hi ddim nofel gonfensiynol – mi oeddwn i’n trio creu cymeriad anghonfensiynol a dwi mor ddiolchgar fod y panel wedi gwerthfawrogi beth roeddwn i wedi ei greu.”
Mae hi’n derbyn cyfanswm o £4,000 mewn gwobr ariannol, yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i nofel gael ei henwi’n Llyfr y Flwyddyn, ac mae Mori yn dilyn tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter, Babel gan Ifan Morgan Jones, a Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros. Mae’r bedair cyfrol oll wedi eu cyhoeddi gan wasg Y Lolfa.
Caiff y gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol sy’n cael eu penodi’n flynyddol.
Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam, er na fu Gwion Hallam yn rhan o’r trafodaethau am y categori ffuglen na’r brif wobr oherwydd gwrthdaro buddiannau.
‘Sleifio i mewn i gilfachau ymennydd y prif gymeriad’
“Roedd darllen Mori fel fy mod i wedi sleifio mewn i gilfachau ymennydd y prif gymeriad, ac yn profi’r nofel trwy ei llygaid hi,” meddai Mirain Iwerydd ar ran y panel.
“Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu cymeriad megis Mori.
“Mae Mori yn gymeriad cymhleth, â meddwl tywyll iawn ar adegau, a’r nofel ei hun yn mentro ac yn archwilio themâu a phynciau nas trafodwyd o fewn ein llenyddiaeth yng Nghymru eisoes, neu’n ddigonol.
“Credaf fod cymeriad Mori ar ben ei hun yn gampwaith, ond wrth ychwanegu Mori fel cymeriad, at y gwead o naratif tyner, llawn hiwmor a chrefftus a luniwyd gan Ffion Dafis – wel, dyna sut ma’ ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn.
“Llwyr haeddiannol, llongyfarchiadau Ffion.”
Ategwyd y ganmoliaeth gan y Beirniad Melanie Owen, sy’n dweud bod “Mori yn ddarn arbennig”.
“Mae gennym ni’r tair beirniad chwaeth gwahanol pan mae’n dod i lenyddiaeth, ond roedd Mori at ddant pawb,” meddai.
“Does dim amau pa mor ddawnus ydy Ffion Dafis fel awdur – rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen beth bynnag mae hi’n ei ysgrifennu nesaf.”
‘Blodeuwedd o wrth-arwres’
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.
“Llongyfarchiadau mawr i Ffion Dafis am gipio teitl Llyfr y Flwyddyn gyda Mori, nofel sy’n dod â Blodeuwedd o wrth-arwres inni i ryfeddu ati a’i hofni yn yr un gwynt,” meddai Leusa Llewelyn.
“Hyfryd gweld nofelydd newydd yn dod i’r brig gan obeithio bydd ei llwyddiant yn ysbrydoliaeth i awduron newydd ledled Cymru i gychwyn sgwennu eu nofelau.
“Llongyfarchiadau i holl awduron a chyd-awduron Y Pump, prosiect arloesol sydd wedi rhoi llwyfan enfawr i awduron newydd ac i ddarpar awduron llewyrchus i adrodd eu straeon unigryw eu hunain.
“Mae’r gyfres yn gosod cynsail i drawsnewid y tirlun llenyddol, sy’n helpu awduron sy’n cael eu tangynrychioli i ddefnyddio eu llais, ac i wneud hynny yn y modd mwyaf egnïol un.
“Rydym ni’n lwcus iawn o gael awduron fel rhai Y Pump yn creu gwaith yn y Gymraeg, a does dim syndod yn y byd eu bod wedi cipio’r farn boblogaidd gyda gwobr Barn y Bobl golwg360 eleni.”
Enillwyr y Categorïau
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enwau’r cyfrolau sydd wedi ennill y categorïau a’r Brif Wobr yn y Gymraeg, a hynny mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru.
Categori Barddoniaeth: merch y llyn gan Grug Muse (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor: Mori gan Ffion Dafis (Y Lolfa)
Categori Ffeithiol Greadigol: Paid â Bod Ofn gan Non Parry (Y Lolfa)
Categori Plant a Phobl Ifanc: Y Pump gan awduron amrywiol (Y Lolfa)
Gwobr Barn y Bobl golwg360: Y Pump gan awduron amrywiol (Y Lolfa)
Enillwyr y Gwobrau Saesneg
Bydd enillwyr y Gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi nos Wener, Gorffennaf 29, ar y rhaglen The Arts Show ar BBC Radio Wales.
Caiff y gwobrau Saesneg eu beirniadu gan y bardd a’r awdur Krystal Lowe, y newyddiadurwr a’r darlledwr Andy Welch, yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown, a’r bardd ac enillydd Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru 2020, Taylor Edmonds.
Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn