Mae plant a phobol ifanc yn elwa’n sylweddol ar ethos “Tîm Môn” a gafodd ei feithrin gan arweinwyr Addysg er mwyn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, yn ôl adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Estyn heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 22) ar Wasanaethau Dysgu’r Cyngor.

Mae’r adroddiad Estyn hwn yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r adroddiad diwethaf, a gafodd ei gyflwyno yn 2012, a ganfu wasanaethau addysg anfoddhaol.

Canfu arolygwyr ddarlun gwahanol iawn yn 2022, gydag addysg yn cael ei gydnabod fel ‘blaenoriaeth uchel i’r Cyngor’, ac mae effeithiolrwydd ei Wasanaeth Dysgu yn cyfrannu at wasanaethau addysg o ansawdd uchel.

Mae’r Cyngor Sir wedi gweithio’n agos â chymunedau ysgol i greu ethos un tîm, ‘Tîm Môn’, lle mae cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a chafodd hyn ei amlygu fel nodwedd gref sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at gynnydd.

Cafodd hyn ei adlewyrchu ar lefel gorfforaethol hefyd, gyda gwasanaethau amrywiol – gan gynnwys Gwasanaethau Plant a Chyllid – yn darparu arweiniad a chefnogaeth i gynorthwyo’r gwasanaeth Dysgu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw yn ogystal at gamau gan y Cyngor i warchod cyllidebau dysgu fel rhan o weledigaeth glir i wella ansawdd addysg.

Mae arweinwyr Addysg ac aelodau etholedig yn cael eu canmol hefyd, am wneud penderfyniadau anodd ac amserol trwy newid a mireinio cynlluniau a blaenoriaethau yn ôl yr angen, gan gynnwys eu hymateb i argyfwng y pandemig COVID-19.

‘Gweithio gyda’n gilydd yn flaenoriaeth allweddol’

Mae Llinos Medi, arweinydd y Cyngor, yn croesawu’r adroddiad, gan ddiolch i Estyn am gydnabod y gwelliannau amlwg a wnaethpwyd gan Wasanaeth Dysgu Ynys Môn.

“Yn naturiol, rydym wrth ein bodd gydag adroddiad mor gadarnhaol sy’n amlygu ymdrechion y Cyngor hwn i gynnal gwasanaethau addysg o’r radd flaenaf,” meddai.

“Rydym yn gweithio’n agos iawn â’n hysgolion, yn ogystal â phartneriaid allanol, ac yn enwedig GwE (Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru), ac rydym yn gwerthfawrogi eu cydweithrediad a’u cyfraniad fel rhan o’r ethos Tîm Môn.

“Mae sicrhau ein bod ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r addysg a’r profiadau gorau posib i’n plant a’n pobol ifanc yn flaenoriaeth allweddol.

“Ar nodyn personol, hoffwn ddiolch i’r cyn-gynghorydd a deilydd portffolio Addysg, Meirion Jones, am ei ymrwymiad a’i gyfraniad i’r cynnydd positif sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad yma.”

‘Gweledigaeth glir iawn’

“Mae gennym weledigaeth glir iawn ar gyfer gwella ansawdd addysg ar Ynys Môn; ac rydym wedi ceisio gwarchod cyllidebau addysg er mwyn cyflawni’r nod allweddol hon,” meddai’r Cynghorydd Ieuan Williams, y deilydd portffolio dros Addysg a’r Iaith Gymraeg.

“Mae gennym dîm gwych yn ein Gwasanaeth Dysgu sy’n gweithio’n dda gyda gwasanaethau eraill y Cyngor, ysgolion a chyrff llywodraethu.

“Mae’r adroddiad cadarnhaol yma gan Estyn yn glod i’w gwaith caled a’u hymrwymiad i roi’r addysg a’r dechrau gorau posib mewn bywyd i ddisgyblion Ynys Môn.”

‘Nid da lle gellir gwell’

Mae Cyngor Môn yn cynnal 45 o ysgolion prif lif, gan gynnwys 40 ysgol gynradd; pum ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig.

“Mae’r adroddiad diweddaraf yma’n dangos fod y Gwasanaeth Dysgu wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac mae’n adlewyrchu hefyd gymaint mae ein Cyngor wedi datblygu a gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai Dylan J Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Sir.

“Fel Cyngor, rydym yn ymrwymedig i gyflawni rhagoriaeth mewn addysg a gweld ein plant a’n pobol ifanc yn ffynnu.”

“Mae croeso cynnes i’r adroddiad hwn, ond nid da lle gellir gwell.

“Mae Estyn wedi rhoi dau argymhelliad pwysig i ni a fydd yn ein cynorthwyo i gryfhau prosesau ymhellach yn ein Gwasanaethau Dysgu a datblygu ein trefniadau sgriwtini. Mae’r argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith yn barod a byddwn yn sicrhau fod y Cyngor yn parhau ar ei daith wella.”

Gellir gweld adroddiad arolygu llawn Estyn yma: https://www.estyn.gov.wales/provider/6609999