Mae pryderon o’r newydd am ddiffyg ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod cyfle wedi’i golli i graffu ar ymateb Llywodraeth Lafur Cymru i’r pandemig.

Daw hyn ar ôl i ddatganiad agoriadol cadeirydd yr ymchwiliad gael eu datgelu.

O blith y categorïau Parodrwydd, Gwneud Penderfyniadau a Gofal Iechyd, dim ond Gwneud Penderfyniadau fydd yn canolbwyntio’n unigol ar Gymru, tra bydd y gweddill yn edrych ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Fe fu’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ers tro bod y penderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad penodol i Gymru’n sicrhau atebolrwydd annigonol o safbwynt llywodraeth ddatganoledig Cymru, gydag ymchwiliad ar draws y Deyrnas Unedig yn debygol o ganolbwyntio’n bennaf ar Loegr.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y cadeirydd i ailfeddwl am strwythur yr ymchwiliad.

‘Siomedig’

“Fe fu gennym ni berthynas dda â’r cadeirydd hyd yn hyn, ac rydym wedi’n plesio gan y ffordd mae hi wedi deall yr angen i ystyried pob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn yr ymchwiliad hwn,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Felly rwy’n siopmedig o weld yn y fframwaith hwn y potensial i weithredoedd y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd gael eu colli mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

“Byddaf yn galw ar y Farwnes Hallett i ategu ei hymrwymiad i archwilio’r llywodraethau datganoledig yn iawn ac adlewyrchu hyn yng ngwaith yr ymchwiliad.

“Wrth gwrs, gallai Mark Drakeford wneud y peth iawn a gorchymyn ymchwiliad penodol i Gymru rydym yn ei haeddu wrth i ni chwilio am atebolrwydd ar gyfer y penderfyniadau a gafodd eu gwneud – o heintiau yn yr ysbyty i gau ysgolion a chefnogi busnesau – a arweiniodd at y nifer fwyaf o farwolaethau’n ymwneud â Covid o blith holl genhedloedd y Deyrnas Unedig.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.