Ym mis Ebrill, mynychais Gymanfa Ganu’r Cyhoeddi draw yng Nghapel Bethlehem, Rhosllannerchrugog. Tra oeddwn i ene, mwynheuais ymuno hefo canu’r emynau… neu, o leiaf geisio ymuno hefo canu’r emynau!

Ond roeddwn i’n synnu nad oeddwn yn gyfarwydd â’r rhan fwyaf o’r emynau gafodd eu dewis. Yn wir, dim ond ‘Rachie’, sef ‘I bob un sydd ffyddlon’ roeddwn yn hyderus ynglŷn â hi – ac wrth deipio nawr a gwirio’r llinell gyntaf, rwy’n sylweddoli taw ‘Sy’n ffyddlon’ dw i wastad wedi’i ganu!

Ysgogodd hyn drafodaeth tu hwnt i’r capel, wrth i ni gyd feddwl am ei throi hi am adref. Roedd rhai o’r llanciau ifainc o un o’r corau yn synnu fy mod yn anghyfarwydd â’r emynau, a dywedais y byddai wedi bod yn neis cael canu ‘Y Dŵr bywiol’ a phethau felly – hynny ydi, yr emynau roedden ni yn eu canu yng ngwasanaethau’r ysgol.

Sbïon nhw arnaf yn syn nes i Aled Lewis Evans esbonio bod llyfr emynau arbennig wedi bod gan Ysgol Morgan Llwyd, a bod ‘Y Dŵr bywiol’ yn un o’r emynau yn hwnnw.

Synnais, achos roeddwn wastad wedi meddwl ei bod yn emyn gyffredinol, adnabyddus, ac rwy’ wastad wedi mwynhau ystyried y geiriau doeth (ychydig yn ddryslyd yn fy nghof!) oedd yn plethu’n berffaith – ‘Natur a’i threfniant/ at waith diwydiant’. Felly ffwr’ â fi am adref a’r silff lyfrau.

Emynau arbennig ein hysgol

Aeth fy llyfr emynau gwreiddiol ar goll ers talwm – rhywbryd yn ystod y flwyddyn 1996, mae’n debyg, pan symudais naw gwaith o fewn un flwyddyn – a phob dim o’m heiddo mewn bagiau bin.

Ond rhai blynyddoedd yn ôl bellach, tra’n byw yma yn fy nghartref priodasol, wnes i ‘mofyn copi o’r llyfr emynau – er, dw i ddim yn cofio sut na chan bwy! Fel y gwelwch o’r llun, mae’r clawr wedi’i rwygo, ac mae yna ôl ceisio’i drwsio gyda thâp selo, ond mae’r cynnwys i gyd intact, fel petai.

Wnes i droi at y tudalennau canol, a sbïo arnyn nhw – yn gymysgedd braf, amlgyfrwng o eiriau wedi’u teipio, erwyddi cerddorol, a geiriau a nodau mewn llawysgrifen – a’r holl beth, rwy’n cymryd, wedi’i lungopïo a’i blygu â llaw a’i staplo i wneud y llyfrau; prosiect celf ynddo’i hun!

Ond yna, wrth graffu ar y dudalen oedd yn cyflwyno ‘Y Dŵr bywiol’, darllenais enwau’r cyfansoddwyr a chefais epiffani: cafodd yr alaw ei hysgrifennu gan John A. Daniel, sef ein hathro cerdd yn Ysgol Morgan Llwyd ac un o drigolion Rhosllannerchrugog.

Cafodd y geiriau eu sgwennu gan Carey Jones, sydd hefyd wedi’i nodi fel awdur yr emyn ‘Duw wrth ei waith’ ar dudalen arall a thrwyddi draw yn y llyfr emynau, gan gynnwys ‘Mae arnom eisiau diolch’.

Wrth fyseddu gweddill y llyfr, gwelais nifer o emynau wedi’u nodi fel hyn, gydag enwau anghyfarwydd, a hefyd yr enw ‘Eleri Deverell’ i’r emyn ‘Fe ddown ynghyd ar ddechrau’r dydd’ – a dw i’n eitha’ sicr taw disgybl yn yr ysgol oedd Eleri hefyd.

Felly mae’n ymddangos taw cynnyrch wedi’i sgwennu ar y cyd rhwng Mr Daniel a rhai o fyfyrwyr yr ysgol yw rhai o fy ffefrynnau ymysg yr emynau rwy’n eu cofio o’r ysgol. Ac wrth deipio hyn, dwi’n meddwl am sut brofiad yw hi i unrhyw un sy’n darllen fy ngeiriau fama ac sydd yn anghyfarwydd â’r emynau hyn, efallai.

Aildanio’r gwybodaeth am yr emynau

Teimlais yn freintiedig iawn fy mod wedi cael cyfle i ddysgu’r emynau arbennig hyn, oedd yn gynnyrch trigolion yr ysgol. Ond ar y llaw arall, teimlais yn drist nad oedden nhw wedi cael eu rhannu’n fwy gyffredinol.

Felly es ati i ddechrau ailddysgu, yn gywir heb gymysgu na phlethu llinellau, rai o’r emynau unigryw hyn, ac mi genais ‘Y Dŵr bywiol’ yn noson mic agored ‘Voicebox’ yr wythnos ddiwethaf draw yn ‘Rough Hands Tap’.

Ond dw i eisiau gwneud mwy. Dw i eisiau hel pobol at ei gilydd, yn enwedig y cyn-fyfyrwyr wnaeth gyfansoddi geiriau’r emynau. Braf iawn fyddai hel cyn-ddisgyblion a staff Ysgol Morgan Llwyd at ei gilydd i drafod y fenter feiddgar fu’n sail i’r llyfr emynau oedd, yn ôl y dudalen gyntaf, wedi cael ei noddi gan unigolion, grwpiau Merched y Wawr amrywiol, capeli, ac adran addysg Cyngor Sir Clwyd.

Braf hefyd fyddai cyd-ganu a chael rhai perfformiadau unigol ar lwyfan i bawb gael ymfalchïo yn nhalent a Chymreictod bro fy mebyd, sy’n cael ei amau a’i herio gymaint. Dyma i chi emynau cwbl wreiddiol yn waddol i’r ysgol yn y gororau!

Cyflwyniad yn y Babell Lên a grŵp ar-lein?

Wrth gwrs, y gofod a’r adeg orau am y shindig hwn yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, pan ddaw i Wrecsam yn 2025. Felly soniais amdani’r noson o’r blaen yn y cyfarfod Eisteddfodol lle buon nhw yn trafod syniadau.

Cefais sgwrs gadarnhaol gydag Elen Mai Nefydd ynglŷn â hyn, yn enwedig y syniad o gael aduniad i’r cyfansoddwyr – a gofyn iddyn nhw roi cyflwyniad yn y Babell Lên.

Felly dyma fi’n gwthio’r cwch i’r dŵr, fel petai, ac yn gofyn a oes gan unrhyw un arall wybodaeth, neu ddiddordeb trefnu ryw ddigwyddiad i’r Babell Lên yn 2025, yn seiliedig ar Lyfr Emynau Ysgol Morgan Llwyd?

Ac yn y cyfamser, efallai fedrwn ni gychwyn clwb bach ar-lein, megis yr un sydd ar wefan Status Quo, lle mae edefyn i bobol drafod y ‘Llyfr Denim’, a pha rhif mae eu llyfr nhw ymysg y llyfrau ‘Limited edition’ yma.

Mae fy llyfr emynau i yma, gyda’r rhif 166 wedi’i sgwennu ynddo mewn beiro glas, ond wedyn wedi’i sgriblo allan, a’r rhif 434 wedi’i sgwennu oddi tano. Pa rif sydd yn eich Llyfr Emynau Ysgol Morgan Llwyd chi, tybed?