Mae’r eitem yma’n rhoi cyfle i siaradwyr newydd adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg.

Y tro yma, Mark Pers, sy’n byw ger Manceinion, sy’n adolygu’r rhaglen Curadur sy’n edrych ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Mae Mark wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2021. Dechreuodd ddysgu gyda Duolingo ac mae’n astudio cwrs Canolradd ar-lein trwy Popeth Cymraeg ar hyn o bryd. Mark yw colofnydd Ar y Bocs i gylchgrawn Lingo Newydd…


Mark, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?

Un o fy hoff raglenni ar S4C ar hyn o bryd ydy Curadur. Mae’r gyfres yma’n ffordd wych i ddod i adnabod rhai o gerddorion a chyfansoddwyr enwog yn ogystal â’r artistiaid sydd yn bwysig neu’n nodedig iddyn nhw. Dw i wedi gwylio tair pennod hyd yn hyn: Iwan Huws (o Cowbois Rhos Botwnnog), Lemfrek (o Gasnewydd) a Cate Le Bon.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Mae pob pennod yn cael ei gyflwyno, neu ei guradu, gan y cerddor dan sylw. Mae’n wych ac yn hwyl i weld sut maen nhw’n dewis cyflwyno eu hunain, eu cyd-gerddorion ac artistiaid eraill, a sut maen nhw’n strwythuro’r rhaglen.

Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog

Beth wyt ti ddim yn hoffi am y rhaglen?

Mae’n bosib fydd rhai pobl ddim yn gyfarwydd gyda phob artist ond, a deud y gwir, dyna’r peth gorau am y rhaglen – cerddoriaeth newydd!

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae’n wych darganfod cerddoriaeth a cherddorion newydd. Be’ sy’n well nag amgylchynu eich hunan yn y diwylliant cyfoes Cymraeg gorau?

O bersbectif dysgwr, mae’n wych clywed sut mae pobl yn siarad yn naturiol pan maen nhw’n siarad gyda cherddorion eraill hefyd.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae pob pennod yn wahanol ac yn cynnwys pobl o bob cornel o Gymru.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Baswn! Mae’r gyfres ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer, felly tiwniwch i mewn pryd bynnag dach chi’n gallu!

Curadur, S4C Clic a BBC iPlayer