Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi cyhoeddi manylion eu drama Gymraeg gyntaf, Gwlad! Gwlad!, heddiw (dydd Llun, Mehefin 24).

Bydd y ddrama yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn rhan o raglen Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd ar Awst 4 a 5, cyn teithio i Neuadd y Dref Maesteg yn y gwanwyn.

Mae Gwlad! Gwlad! wedi cael ei disgrifio fel “gwrthdrawiad cyffrous o dir, cân, pobol ac amser ar daith swreal at wraidd cenedlaetholdeb”, gan archwilio etifeddiaeth anthem genedlaethol Cymru.

Ceisia’r ddrama archwilio’r rhain drwy adrodd straeon episodig “grymus, pryfoclyd ac, ar adegau, teimladwy” sy’n cael eu datgelu trwy gymeriadau hanesyddol a ffuglennol.

Cafodd y ddrama ei hysgrifennu gan yr awdur Chris Harris, a’i chyfarwyddo gan Harvey Evans.

Cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi gan Stacey Blythe, ac mae’r ddrama wedi’i chynhyrchu gan Pedro Lloyd Gardiner, Cynhyrchydd Creadigol Awen.

Bydd y ddrama yn cynnwys darpar weithwyr proffesiynol y celfyddydau perfformio o fenter hyfforddi Awen ar gyfer pobol ifanc 18 i 25 oed, Lansiad, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Caiff y prosiect ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Rhondda Cynon Taf, a chaiff ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

‘Ymateb comig tywyll’

“Nid drama hanesyddol yw Gwlad! Gwlad! ond ymateb comig tywyll i’n trafodaeth gymhleth ar wladgarwch, cenedlaetholdeb, arwyr a rhyfelwyr… gwagle dychmygol rhwng realiti a ffantasi,” meddai Chris Harris.

“Fel awdur, mae gen i ddiddordeb bob amser yn y cwestiynau anghonfensiynol sy’n troi ein ffordd o feddwl ar ei ben. Mae Gwlad! Gwlad! yn gofyn sut y gall un anthem gynrychioli gwlad gyfan. A yw’n dal i fod yn berthnasol? Ar ran pwy mae’n siarad?

“Mae’r ddrama yn cynrychioli’r meddylfryd episodig, dameidiog ac anhrefnus sy’n ffurfio natur ddigyswllt yr agenda cenedlaetholgar, gan adleisio lleisiau’r gymuned y mae’n chwarae iddi, fel y gellir gwneud trefn o anrhefn.”

‘Ymgolli’

“Fy ngweledigaeth greadigol yw creu profiad ymgolli sy’n herio syniadau confensiynol gwladgarwch a chenedlaetholdeb, tra hefyd yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru,” meddai Harvey Evans.

“Nod ein cast bach o bedwar yw mynd â’r gynulleidfa ar daith swreal sy’n eu hannog i fyfyrio ar gymhlethdodau hunaniaeth a pherthyn.”

Dywed Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, bod y cysyniad ar gyfer Gwlad! Gwlad! wedi’i ysbrydoli “gan gysylltiad serendipaidd”.

“Cafodd yr anthem ei hysgrifennu ym Mhontypridd a’i pherfformio am y tro cyntaf ym Maesteg, y ddwy dref lle yr ymddiriedir ynddom i reoli theatrau ar ran ein partneriaid awdurdod lleol.

“Fel sefydliad sy’n falch o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru, mae’n fraint wirioneddol cael perfformio’r ddrama hon yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni.”

Gall mynychwyr yr Eisteddfod wylio Gwlad! Gwlad! yn rhan o’u diwrnod yn yr Eisteddfod, neu trwy brynu tocyn wythnosol.