Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Sonya Hill sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Ne-wff-ion ar S4C.

Mae Sonya Hill yn dod o Walsall yn wreiddiol ond rŵan yn byw yn Llanbedr ger Harlech. Mae hi’n gweithio mewn tafarn yn y pentre’. Mae hi’n dysgu Cymraeg ar-lein gyda Popeth Cymraeg a Phrifysgol Bangor.


 Sonya, beth yw eich hoff raglen ar S4C?

Fy hoff raglen ar S4C ydy Ne-wff-ion ar hyn o bryd. Rhaglen i blant ydy Ne-wff-ion – maen nhw’n dysgu am y byd o’u cwmpas mewn ffordd ddifyr.

Pam dych chi’n hoffi’r rhaglen?

Ro’n i’n chwilio ar S4C am rywbeth byr ac ysgafn i’w gwylio yn Gymraeg ac mi wnes i ddod o hyd Ne-wff-ion. Mae’n rhaglen wythnosol sy’n edrych ar y  newyddion a materion cyfoes diweddaraf. Dw i’n ei hoffi achos mae’n ddoniol, yn hawdd i’w ddilyn ac mae amrywiaeth o straeon.

Beth dych chi’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Pypedau ydy’r ddau gyflwynydd yn yr ystafell newyddion. Dau gi ydyn nhw o’r enw ‘Cariad-Aur Wffington’ a ‘Peredur Pawen’ ond mae pob un o’r gohebwyr yn blant ifanc o bob rhan o Gymru ac maen nhw’n wych. Mae’r gohebwyr yn ymweld â llawer o lefydd gwahanol fel amgueddfeydd, banciau bwyd, ffermydd gwynt, arddangosfeydd ac yn cyfweld ag oedolion yno. Hefyd mae adroddiadau am bethau sy’n digwydd mewn ysgolion fel gardd synhwyrau newydd neu bobl enwog yn ymweld.

Pam fod y rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae Ne-wff-ion yn rhaglen dda i bobol sy’n dysgu Cymraeg achos mae ar gyfer plant felly mae’r iaith yn syml ond dydy’r pynciau ddim yn blentynnaidd. Mae isdeitlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ond dw i’n meddwl basa y rhan fwya’ o oedolion sy’n dysgu yn deall yn iawn heb unrhyw isdeitlau.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae’r cyflwynwyr yn yr ystafell newyddion yn siarad iaith y de, ond mae’r gohebwyr yn byw ar hyd a lled Cymru, o’r Barri i Gaernarfon. Roedd un o’r adroddiadau dw i wedi’i weld yn sôn am y gwahanol eiriau sy’n cael eu defnyddio mewn gwahanol rannau o Gymru.

A fyddech chi’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Yn bendant. Does gen i ddim plant ond dw i’n dal i fwynhau’r rhaglen. Dw i ddim wedi ei gwylio i gyd eto ond mi fydda’ i’n dal i fyny i ddarganfod y diweddaraf am y gath goll o Gricieth. Dechreuodd y gyfres nôl ym mis Hydref llynedd. Mae’r deuddeg pennod gyntaf ar BBC iPlayer a’r gweddill ar gael ar S4C Clic. Weithiau mae’n hwyl gwylio plentyn chwech oed yn cyfweld ag Aelod o’r Senedd ac ymarfer Cymraeg!