Mae holl senglau Sain bellach ar gael yn ddigidol, gan gynnwys ‘Dŵr’ gan Huw Jones a rhai o senglau cynharaf Dafydd Iwan.

Wedi eu recordio ar wahanol gyfnodau o ddiwedd y 1960au tan 1990, mewn lleoliadau ledled Cymru, gan gynnwys stiwdios Sain, mae’r senglau’n cynnwys rhai gan Meic Stevens, Heather Jones, Eleri Llwyd, Y Cyrff, y Brodyr Gregory a Caryl Parry Jones.

Yng nghyfnod canu gwleidyddol y 1970au, roedd senglau grwpiau Ac Eraill, Y Chwyldro a Y Nhw yn boblogaidd. Roedd senglau’r cyfnod hefyd yn cynnwys rhai gan Y Tebot Piws, y Dyniadon Ynfyd, Sidan a’r diweddar Eirlys Parri.

Daeth sain newydd gyda senglau’r 1980au, ac arddull wahanol cantorion fel Rhiannon Tomos yn torri tir newydd. Daeth ton newydd o grwpiau hefyd megis Angylion Stanli, Trydan a Clustie Cŵn.

Roedd y canu clasurol, poblogaidd hefyd yn rhan o’r senglau Sain: 1 – 140, gan gynnwys Trebor Edwards a Hogia’r Wyddfa.

Ymysg y senglau olaf i’w rhyddhau, cyn cyfnod poblogaidd y record hir, roedd recordiau Rohan, Louis a’r Rocyrs, y grŵp merched Pryd Ma’ Te, caneuon plant Cwm Rhyd y Chwadods, a’r gantores Ruth Barker.

Bellach, mae modd mynd yn ôl i’r cyfnod o ryddhau senglau dwy, dair, pedair a phum cân, a chlywed caneuon ac artistiaid sy’n newydd i’r platfformau digidol.

Gallwch ddod o hyd i’r 411 o ganeuon drwy chwilio am ‘O’r Archif – Senglau Sain (1969 – 1990) ar blatfformau ffrydio cerddoriaeth.