Syr Tom Jones fydd yn cychwyn wythnos o berfformiadau byw yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen heno (nos Fawrth, 2 Gorffennaf).

Mae disgwyl i’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal yn y dref yn Sir Ddinbych bob blwyddyn, ddenu hyd at 50,000 o bobl.

Mae Bryan Adams, Paloma Faith, y  Manic Street Preachers a Suede eisoes wedi perfformio yn Llangollen yn y dyddiau’n arwain at yr Eisteddfod.

Dyma’r tro cyntaf i Tom Jones, 84, berfformio yn yr ŵyl.

Bydd yr artist jazz, Gregory Porter, yn perfformio ddydd Gwener, y gantores Katherine Jenkins ddydd Sul, a gwesteion eraill gan gynnwys Nile Rodgers ar 11 Gorffennaf a Jess Glynne ar 12 Gorffennaf.

3,000 o gystadleuwyr

Fe ddechreuodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 1947. Eleni, mae disgwyl i 3,000 o gystadleuwyr o 34 o wahanol wledydd, gan gynnwys Tsieina, Japan, Zimbabwe, Awstralia a Chanada, gystadlu yn yr ŵyl.

Mae cyfarwyddwr artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Dave Danford wedi dweud mai’r digwyddiad eleni fydd “yr ŵyl fwyaf proffil-uchel ers degawdau.”

Ar ôl cyfnod heriol i’r Eisteddfod cafodd cwmni Cuffe & Taylor, sydd â phrofiad o hyrwyddo gwyliau cerddorol a pherfformiadau byw, eu penodi.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o heddiw (2 Gorffennaf) hyd at ddydd Sul (7 Gorffennaf).