Mae Syr Alan Bates, Noel Thomas a Manon Steffan Ros ymhlith y deg unigolyn fydd yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor eleni.

Bydd Prifysgol Bangor yn dyfarnu graddau er anrhydedd i ddeg unigolyn ym meysydd gwasanaeth cyhoeddus, llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chwaraeon am eu cyfraniad at fywyd cyhoeddus.

Bydd y seremonïau graddio yn cael eu cynnal yn Neuadd Prichard-Jones o ddydd Llun, Gorffennaf 8 tan ddydd Gwener, Gorffennaf 12, pan fydd y brifysgol hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 140 oed.

Bydd graddau er anrhydedd yn cael eu dyfarnu i Syr Alan Bates, cyn is-bostfeistr o Landudno sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder i is-bostfeistri ers dau ddegawd, a Noel Thomas, cyn is-bostfeistr o’r Gaerwen, Ynys Môn.

Cafwyd Noel Thomas yn euog ar gam o ffugio cyfrifon yn sgil methiannau gyda system gyfrifiadurol Horizon fethu.

Apeliodd yn llwyddiannus yn erbyn ei euogfarn ac ers hynny mae wedi adrodd ei hanes gan ei fod ‘eisiau i eraill sydd wedi dioddef ddod ymlaen a sicrhau cyfiawnder’.

Hefyd yn derbyn graddau er anrhydedd mae Manon Steffan Ros, Linda Gittins, Joan Edwards, Mark Williams, Dr Susan Chomba, yr Athro E Wynne Jones, yr Athro John Philip Sumpter a Carl Foulkes.

Y rhestr lawn

Dyma fanylion llawn yr anrhydeddau a ddyfernir gan Brifysgol Bangor yn ystod seremonïau graddio’r haf yn 2024:

Syr Alan Bates

Cyn Is-bostfeistr – am Wasanaeth Cyhoeddus

Er ei fod yn arwr annhebygol, mae Syr Alan Bates, cyn is-bostfeistr o Landudno, wedi ymroi dau ddegawd i eirioli dros gyfiawnder a chlirio enwau rheolwyr Swyddfa’r Post a ddioddefodd yn sgil yr hyn gaiff ei ystyried yr achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes y Deyrnas Unedig.

Sefydlodd y Gynghrair Gyfiawnder i Is-bostfeistri yn 2009, gan chwarae rhan flaenllaw yn y frwydr gyfreithiol i geisio cyfiawnder i’r rhai gafodd eu cyhuddo ar gam a sicrhau iawndal iddyn nhw.

Gyda phump arall o’r Gynghrair Gyfiawnder, aeth â Swyddfa’r Post i’r llys ar ran 555 o hawlwyr.

Noel Thomas

Cyn Is-bostfeistr – am Wasanaeth Cyhoeddus

Cafodd Noel Thomas, cyn is-bostfeistr o Ynys Môn, gydnabyddiaeth am ei ran arwyddocaol yn yr ymgyrch yn erbyn yr achos o gamweinyddu cyfiawnder sylweddol yn y Deyrnas Unedig.

Bu’n rhan o frwydr gyfreithiol hirfaith yn erbyn Horizon, ac yn ymgyrchu ochr yn ochr ag eraill i glirio enwau is-bostfeistri a wynebodd euogfarnau troseddol oherwydd meddalwedd cyfrifo diffygiol.

Mae ei ymrwymiad i geisio cyfiawnder i’r rhai a ddioddefodd yn sgil y sgandal yn enghraifft o’i wytnwch ac o ba mor benderfynol oedd e i ddatgelu’r gwir.

Manon Steffan Ros

Awdur – am ei chyfraniad at y Gymraeg a Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru

Mae Manon Steffan Ros yn nofelydd, dramodydd, sgriptwraig, a cherddor amlwg o Gymru, sy’n chwarae rhan arwyddocaol ym myd llenyddol yr iaith Gymraeg.

Y llynedd, derbyniodd hi Fedal Yoto Carnegie am ei nofel The Blue Book of Nebo, ei chyfieithiad ei hun o’i nofel Llyfr Glas Nebo, enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2018 a thair gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Linda Gittins MBE

Cerddor a chyfansoddwr – am ei chyfraniad at y Gymraeg a Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru

Mae Linda Gittins yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor a gydsefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn yn 1981.

Mae’n enwog am gynhyrchu rhai o sioeau theatr gorau a mwyaf eiconig Cymru.

Gan gydweithio gyda Penri Roberts a’r diweddar Derec Williams, mae hi wedi ysgrifennu a chynhyrchu sawl sioe lwyfan.

Joan Edwards OBE

Biolegydd y Môr – am Ysgoloriaeth ac Arloesi Eithriadol

Mae’r gyn-fyfyrwraig Joan Edwards, Pennaeth Moroedd Byw yn yr Ymddiriedolaethau Natur, wedi treulio dros 30 mlynedd yn ymgyrchu, yn hysbysu ac yn dylanwadu y tu ôl i’r llenni i warchod amrywiaeth bywyd y môr o amgylch y glannau.

Mark Williams

Cyn-nofiwr Paralympaidd – am Fusnes ac Entrepreneuriaeth

Bu i’r cyn nofiwr paralympaidd ac enillydd medal Mark Williams droi syniad am gloriau coesau prosthetig lliwgar yn fusnes arloesol.

Gyda’i wraig Rachael, sefydlodd LIMB-art, cwmni sy’n meithrin balchder pobol yn eu haelodau prosthetig.

Mae LIMB-art wedi derbyn sawl clod, gan gynnwys y wobr fawreddog King’s Award for Enterprise.

Dr Susan Chomba

Cyfarwyddwr, Vital Landscapes, Affrica am Wasanaeth Cyhoeddus

Mae’r gyn-fyfyrwraig Dr Susan Chomba, un o’r graddedigion Meistr Ewropeaidd cyntaf erioed i raddio mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy, bellach yn llysgennad byd-eang o fri ar gyfer y Race to Zero a’r Race to Resilience o dan Uwch Hyrwyddwyr y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd.

Cafodd ei henwi’n un o ‘16 Women Restoring the Earth’ y Global Landscapes Forum yn 2021 ac ymddangosodd ar restr y BBC o 100 o ferched ysbrydoledig a dylanwadol y byd yn 2023.

Yr Athro E Wynne Jones OBE

Cyn-Brifathro a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams – am Wasanaethau i Addysg

Cafodd yr Athro Wynne Jones ei fagu ar ei fferm deuluol ger Bae Colwyn gan raddio mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 1970.

Maes o law, daeth yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams, lle bu’n arwain y gwaith o sicrhau statws prifysgol a phwerau dyfarnu graddau ymchwil i’r sefydliad yn 2006.

Yr Athro John Phillip Sumpter OBE

Ecotocsicolegydd, Prifysgol Brunel – am Wasanaethau i Addysg

Ar ôl ennill ei PhD mewn Sŵoleg Forol o Brifysgol Bangor, aeth yr Athro John Philip Sumpter i fod yn ecotocsicolegydd o fri ac yn arweinydd byd-eang yn ei faes.

Dechreuodd ei daith ddylanwadol ddiwedd y 1970au pan ymchwiliodd i ffenomen pysgod ‘rhyngrywiol’ yn Afon Lea, gan eu cysylltu â llygredd cemegol o ffynonellau diwydiannol, plastig, fferyllol a chosmetig.

Arweiniodd hyn at ymchwil helaeth ar lygredd cemegol cymysg, gan gynnwys amrywiaeth eang o sylweddau mewn afonydd. Cododd hyn ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd amgylcheddol.

Carl Foulkes QPM

Cyn-Brif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru – am Wasanaeth Cyhoeddus

Carl Foulkes oedd Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd rhwng 2018 a 2022, ac yn arweinydd plismona cenedlaethol Cymru yn ystod Covid-19.