Mae Menter a Busnes wedi cyhoeddi gwedd a chynllun strategol newydd “uchelgeisiol” er mwyn helpu busnesau Cymru “i gyrraedd llwyfan fyd-eang”.

Cafodd yr enw newydd Mentera ei gyhoeddi’r wythnos yma, o flaen swyddogion y Llywodraeth ac arweinwyr diwydiant, mewn achlysur arbennig yng Ngwinllan Llanerch yn y Bont-faen.

“Rydyn ni wedi treulio peth amser ers fi ddechrau yn y swydd yn llunio pwrpas, gweledigaeth ac egwyddorion craidd y cwmni,” meddai Llŷr Roberts, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni ers Rhagfyr 2022.

“Wrth i ni adlewyrchu ar y sefyllfa rydyn ni ynddi ar hyn o bryd ac edrych ymlaen, mae’n bwysig bod y brand a’r enw newydd yn dod â’r egwyddorion craidd yna a’r weledigaeth yn fyw.

“Rydyn ni’n gwybod fod tirwedd fusnes Cymru yn newid yn gyson ac mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu’r esblygiad yna yn y strategaeth.

“Ynddi, rydyn ni’n sôn am yr angen i ysbrydoli a galluogi busnesau i fentro a ffynnu yn lleol ac yn rhyngwladol, a chreu economi lewyrchus i Gymru.

“Rydyn ni’n sôn am fod yn gwmni deinamig, modern yn yr egwyddorion craidd ac mae’r enw yn ffordd o gyfleu hynny.”

Mae Mentera yn “enw syml, bachog” sy’n mynd i alluogi’r cwmni i “dorri marchnadoedd newydd, i rannu negeseuon pwysig gyda chynulleidfaoedd sydd wedi delio gyda Menter a Busnes erioed, a chynulleidfaoedd newydd hefyd mewn gwahanol sectorau”, meddai.

Er i gwmni allanol gael ei benodi i wneud y gwaith ailfrandio, penderfyniad mewnol oedd yr enw newydd.

“Fe sefydlon ni grŵp ailfrandio i edrych ar yr enw a chymryd amser gyda staff y cwmni o wahanol adrannau a rhaglenni i adlewyrchu ar be’ gall yr enw newydd fod,” meddai wedyn.

“Rydyn ni wedi ystyried sawl enw, ond un o’r pethau rydyn ni wedi ei wneud yw parchu hanes a thraddodiad y cwmni, a symleiddio beth sydd gyda ni… trwy gyfuno’r ddau air.

“Mae’n swnio fel berf, ac mae’r weledigaeth yn cyfeirio at greu mudiad cryf o fusnesau hyderus sy’n barod i fentro a ffynnu yn lleol a rhyngwladol.

“Mae’r logo newydd yn symbolaidd o bont…

“Y syniad yw bod Mentera yma ar ran busnesau Cymru i bontio rhwng sectorau, cyfleoedd a marchnadoedd, a hefyd i bontio rhwng y lleol a’r cenedlaethol a’r rhyngwladol.

“Mae’n rhywbeth bach mwy bachog sy’n caniatáu i ni wneud yn fwy o ran brandio.”

Yn ystod y lansiad, dywedodd Fflur Jones, cadeirydd Mentera, fod y cwmni wedi “cefnogi miloedd o fusnesau ac wedi chwarae rhan bwysig yn hwyluso twf economaidd ledled Cymru” ers cael ei sefydlu gyntaf yn 1989.

Tair swydd arweinyddol newydd

Un peth yw datblygu strategaeth, peth arall yw ei gwireddu, yn ôl Llŷr Roberts.

Er mwyn gwneud hynny, mae wedi cyhoeddi newidiadau i’r tîm arweinyddol.

Maen nhw wedi creu tair swydd newydd, gan godi nifer swyddi’r tîm arweinyddiaeth o bedair i saith.

Y swyddi newydd fydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata; Pennaeth Technoleg, Newid ac Arloesedd, a Phennaeth Datblygu Masnachol.

O ran llywodraethiant, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i erthyglau’r cwmni er mwyn bod “yn fwy effeithiol yn rheoli pob math o bethau gan gynnwys cyllid cyhoeddus”, yn ôl Llŷr Roberts.

“Ac rydyn ni wedi ychwanegu arbenigedd i fwrdd y cwmni, ac wedi recriwtio pedwar cyfarwyddwr anweithredol i’n helpu ni i ddod â’r strategaeth yn fyw.”

Y pedwar cyfarwyddwr anweithredol newydd yw Geraint Jones, Uwch Bensaer Diogelwch Parth i Aldermore Bank; Carys Owens, Rheolwr-Gyfarwyddwr Whisper Cymru; Huw Eurig, arweinydd yn y diwydiant creadigol; a Mari Stevens, cyfarwyddwr cwmni ymgynghori Anian.

Gyda nifer o gyrff cyhoeddus eraill – o Amgueddfa Cymru i’r Llyfrgell Genedlaethol – yn gorfod gwneud toriadau swyddi, sut mae Mentera wedi llwyddo i greu rhagor o swyddi ar y lefel uchaf?

“Rydyn ni wedi gweld newidiadau i gyllidebau’r Llywodraeth, ac rydyn ni wedi gweld toriadau yn amaethyddiaeth a’r sector bwyd a diod, a phwy a ŵyr pa newidiadau a ddaw yn y dyfodol,” meddai Llŷr Roberts.

“Dyna pam bo ni’n datblygu strategaeth sy’n eitha’ bowld, sydd yn mynd i’r afael â’r heriau yng Nghymru.

“Er bod yna nifer o gyrff yn dioddef ar hyn o bryd o ran toriadau swyddi ac ati, rydyn ni yn gwybod nad yw’r economi mewn sefyllfa iach iawn ar hyn o bryd, ac mae angen buddsoddiad.

“Fel cwmni nid er elw annibynnol, mae Mentera mewn safle da i wireddu ein gweledigaeth – gweledigaeth yr ydyn ni’n ei rhannu gyda’r Llywodraeth a Jeremy Miles [Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg] i ddatblygu’r economi.”

Y llynedd, agorodd y cwmni dair swyddfa newydd yn Ynys Môn, Llanrwst a Chaerdydd, i’w hychwanegu at y swyddfeydd hirsefydledig yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Meifod.