Mae Plaid Cymru’n galw am ymchwiliad statudol, ar ôl i gyn-brifathro gael ei garcharu am 17 o flynyddoedd am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Cafwyd Neil Foden, cyn-brifathro Ysgol Friars ym Mangor, yn euog o 19 o’r ugain cyhuddiad o droseddau rhyw yn ei erbyn, yn dilyn achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Byddai’r ymchwiliad mae Siân Gwenllian, Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts yn galw amdano yn ystyried sut y llwyddodd i gyflawni troseddau erchyll yn erbyn plant bregus dan ei ofal yn yr ysgol.
Roedd deuddeg o’r troseddau’n cynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn, a throseddau rhyw yn erbyn plant dan ei ofal.
Ymchwiliad “cynhwysfawr ac annibynnol”
Mewn datganiad ar y cyd, mae’r gwleidyddion o Blaid Cymru’n galw am ymchwiliad statudol “cynhwysfawr ac annibynnol” sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethu lles plant.
“Yn dilyn dedfrydu cyn-bennaeth Ysgol Friars i 17 mlynedd yn y carchar am droseddau lluosog o gam-drin plant, rydym yn galw am ymchwiliad statudol i sut yr oedd Neil Foden mewn sefyllfa i gyflawni troseddau mor ffiaidd yn erbyn disgyblion bregus yn ei ofal,” medden nhw.
“Mae plant a’u teuluoedd yng ngogledd-orllewin Cymru wedi dioddef troseddau erchyll.
“Maen nhw yn ein meddyliau, ac mae’n rhaid i ni roi blaenoriaeth i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef fel hyn byth eto.
“Mae Ysgol Friars yn darparu addysg uwchradd i deuluoedd sy’n byw yn nalgylch cyfagos Bangor a hefyd i lawer o blant sy’n byw ymhellach i ffwrdd yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.
“Rhaid i’r teuluoedd hyn i gyd fod yn hyderus yn annibyniaeth a chynhwysedd yr ymchwiliad a’i gylch gorchwyl – mae angen iddo ddatgelu graddau llawn y methiannau a sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn ddi-oed i atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.
“Tra’n cydnabod bod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal adolygiad ymarfer plant, credwn fod angen ymchwiliad statudol os ydym am ddysgu’r holl wersi sydd angen eu dysgu i atal troseddau dychrynllyd o’r math hwn yn y dyfodol.
“Yn wahanol i ymchwiliad statudol, nid oes gan y Bwrdd Diogelu unrhyw bŵer i orfodi tystion i roi tystiolaeth, ac ni roddir eu tystiolaeth ar lw ychwaith.
“Rhaid i ymchwiliad Ysgol Friars allu casglu tystiolaeth yn llawn.
“Er mwyn y plant a’r teuluoedd dan sylw ac er mwyn pob plentyn, mae ymchwiliad statudol yn hanfodol.”