Mae’r Comisiynydd Safonau wedi beirniadu cynlluniau “trwsgl” i’w gwneud hi’n drosedd i Aelodau ac ymgeiswyr y Senedd dwyllo’r cyhoedd yn fwriadol.

Fe wnaeth Douglas Bain, sy’n ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Senedd, godi pryderon am gymal 64 o’r Bil Etholiadau, fyddai’n golygu gwahardd gwleidyddion am dwyllo bwriadol.

Bydd pleidlais allweddol ar y cynnig ynghylch gwleidyddion sy’n dweud celwydd yn cael ei harwain gan Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru, ac yn cael ei chynnal ddydd Mawrth (Gorffennaf 2).

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Safonau, roedd Douglas Bain yn cytuno i raddau helaeth â safbwynt Llywodraeth Cymru, fydd yn ceisio dileu cymal 64.

Fe wnaeth e gwestiynu pam ddylai gwneud datganiad ffug arwain at y fath ganlyniadau “draconaidd” pan na fyddai dulliau eraill o gamymddwyn o reidrwydd yn arwain at yr un math o gosb.

‘Trwblu’

“Dw i’n credu y byddai hynny’n arwain y neges hollol anghywir ynghylch sut mae’r Senedd yn ystyried bwlio, aflonyddu ac ymddygiad rhywiol amhriodol,” meddai wrth y pwyllgor.

Rhybuddiodd na fyddai ceisio cyflwyno gwaharddiad am gyfnod penodol yn rhoi ystyriaeth i ddifrifoldeb neu ddibwysedd y datganiad twyllodrus.

“Mae’n ymddangos i mi’n eithaf amhriodol y gellid ymdrin â hynny ac y byddai’n arwain at yr un gosb â gwaharddiad am achos difrifol iawn o ddatganiad ffug, yr oedd aelod yn gwybod ei fod yn ffug ac wedi achosi niwed difrifol,” meddai.

“Mae hefyd yn fy nhrwblu, y syniad y dylai gwneud datganiad ffug atal person rhag sefyll ar gyfer y Senedd am bedair blynedd, mewn gwirionedd.

“Fel dw i’n ei deall hi, byddai hynny’n golygu na fydden nhw’n gallu sefyll yn etholiadau nesa’r Senedd.

“Dw i’n ei chael hi’n anodd gweld sut gellid cyfiawnhau hynny.”

‘Trwsgl’

Tynnodd Douglas Bain sylw at y ffaith y byddai datganiad ffug yng ngwydd y cyhoedd, gan awgrymu mai’r pleidleiswyr sydd yn y lle gorau i benderfynu a yw ymgeisydd yn addas i fod yn Aelod o’r Senedd.

Rhybuddiodd, pe bai cymal 64 yn cael ei weithredu, y byddai’n rhaid gohirio unrhyw gwynion am ddatganiad ffug hyd nes bod y perygl o greu rhagfarn yn ystod ymchwiliad yr heddlu neu erlyniad yn mynd heibio.

“Byddai hynny’n arwain yn anochel at oedi sylweddol iawn yn y broses gwyno, a dw i ddim yn meddwl bod neb eisiau i hynny ddigwydd,” meddai.

Fe wnaeth Douglas Bain, gafodd ei benodi yn 2021, ddisgrifio drafftio cymal 64 fel “trwsgl ar y gorau”, gan ychwanegu ei fod yn “meddwl bod hynny’n hael iawn”.

Rhybuddiodd y byddai gan is-gymal saith ganlyniadau “pellgyrhaeddol” o ran rhoi pwerau i weinidogion Cymru gael newid deddfwriaeth, er y byddai’n unol â sêl bendith y Senedd.

‘Diffyg’

Cododd Douglas Bain bryderon am ddiffyg darparu ar gyfer cosb yn y bil, gan ddweud ei bod hi’n “eithriadol cael trosedd heb fod cosb y gall llys ei chyflwyno”.

Fe wnaeth y cyn-fargyfreithiwr ddisgrifio’r ffenest o chwe mis i ddwyn erlyniad fel “diffyg”.

“Pe bai’n dod i’r amlwg chwe mis a diwrnod ar ôl i’r datganiad gael ei wneud ei fod e’n ddifrifol o ffug ac yn ymddygiad gwarthus bwriadol, yna allai dim byd ddigwydd,” meddai wrth aelodau.

Fe wnaeth Douglais Bain, sydd wedi’i leoli yn sir Down yng Ngogledd Iwerddon, feirniadu diffyg manylion ynghylch yr hyn fyddai’n digwydd pe bai gwleidydd yn apelio yn erbyn collfarn.

“All hi ddim bod yn iawn yn fy meddwl, pe bai apêl ar y gweill, y dylai’r gwaharddiad ddod i rym,” meddai.

“Os yw’r person yn llwyddiannus, does dim datrysiad.”

‘Twll du’

Tynnodd e sylw at y ffaith y byddai gwleidyddion yn cael eu gwahardd rhag sefyll mewn etholiad ar gyfer y Senedd, ond nid ar gyfer senedd y Deyrnas Unedig na chynghorau.

“Mae’n ymddangos i mi nad oes rheswm am hynny sy’n rhesymegol,” meddai.

Fe wnaeth e ddadlau y dylid ymdrin â datganiadau ffug o dan broses gwyno bresennol y Senedd, gan ddweud y byddai’n gynt o lawer o ganlyniad i ôl-groniad enfawr yn y llysoedd troseddol.

Cafodd ei benodi’n gomisiynydd dros dro yn 2019, pan wnaeth ei ragflaenydd Roderick Evans gamu o’r neilltu ar ôl i Neil McEvoy, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ei recordio’n gudd.

Dywedodd Douglas Bain y byddai achosion troseddol yn cael eu cyfeirio at yr uned “troseddau gwleidyddol” ym mhencadlys Gwasanaeth Erlyn y Goron yn Llundain, gan arwain at oedi enfawr.

Cyfeiriodd e at esiampl y cwynion gan Neil McEvoy yn erbyn Syr Roderick Evans, oedd fel pe baen nhw “wedi diflannu i mewn i dwll du am amser hir”.

‘Gwarthus’

Fe wnaeth Douglas Bain feirniadu’r broses “anffodus” o ddrafftio cymal 64, gafodd ei ychwanegu at y bil yn ystod cyfnod diwygio blaenorol, ar ôl i Lee Waters o’r Blaid Lafur atal ei bleidlais.

Dywedodd fod y cymal yn rhoi 14 diwrnod i wleidyddion gywiro’r cofnod, gan gwestiynu beth fyddai’n digwydd pe bai rhywun ar wyliau ac yn methu cael gwybod tan y pymthegfed diwrnod.

“Y ffordd mae’n cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, fydden nhw ddim yn gallu cael gafael ar y dystiolaeth sydd, yn syml iawn, yn warthus,” meddai’r ymchwilydd wrth aelodau’r pwyllgor.

Wrth ymateb i bryderon ynghylch “llu” o gwynion maleisus a gwrthdaro posib â deddfwriaeth hawliau dynol, doedd Douglas Bain ddim o’r farn y byddai’r naill beth na’r llall yn broblem.

“Dw i jyst yn credu bod hwn yn ddull eithriadol o gymhleth o ddatrys problem nad yw wir yn bodoli,” meddai wrth gau ei sylwadau.

“Yn fy meddwl i, mae modd mynd i’r afael â hyn eisoes.”